Date/Time
Date(s) - 23/03/2022
1:00 pm - 3:00 pm
Categories
Mae gan Gymru a’r DU un o’r lefelau uchaf o ddibyniaeth ar weithwyr gofal iechyd sydd wedi’u hyfforddi’n rhyngwladol mewn unrhyw wlad yn yr OECD. Mae un o bob tri meddyg ac un o bob wyth nyrs yn y DU wedi cael eu hyfforddi mewn gwlad arall. Mae adroddiad THET “Experts in our Midst” yn ceisio deall y cyfraniad mae staff o’r fath yn ei wneud wrth lunio GIG sy’n ymgysylltu’n fyd-eang, ac mewn trafodaethau ar wella’r ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghymru a’r DU.
Ymunwch â ni i glywed crynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, ac ymatebion iddynt o Gymru. Bydd y sesiwn yn archwilio sawl maes, gan gynnwys cyfraniadau gweithwyr iechyd diaspora i iechyd byd-eang, cynhwysiant ac anghydraddoldebau iechyd ac arweinyddiaeth diaspora mewn partneriaethau iechyd.
Rydym yn croesawu cyfranogwyr i rannu eu profiadau byw mewn perthynas â’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu wrth ddefnyddio eu harbenigedd a’u gwybodaeth yn llawn, gartref, neu yn eich gwlad treftadaeth. Bydd y digwyddiad dysgu ar y cyd hwn yn croesawu eich meddyliau a’ch syniadau ar y dulliau a allai alluogi, ymgysylltu a grymuso staff diaspora y GIG i gymryd rhan mewn gwaith partneriaeth iechyd rhyngwladol tra’n cyflwyno manteision i’r GIG.