Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: Yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol!

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 22/06/2022
1:00 am

Categories


Ydych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n chwilio am her newydd sy’n cyflwyno manteision i chi, eich sefydliad a phartneriaid Affricanaidd?

Ydych chi eisiau’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad  o weithio mewn lleoliad newydd yn Affrica Is-Sahara?

Ydych chi eisiau gwneud cyfraniad personol i gefnogi partneriaid Affricanaidd i ddatblygu eu darpariaeth ac, wrth wneud hynny, helpu i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig?

Sut mae lleoliad 8 wythnos yn Uganda, Lesotho neu Namita yn swnio?

Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru Affrica yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o raglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (ILO) Llywodraeth Cymru, ac mae’n gobeithio creu partneriaethau newydd a datblygu rhai sy’n bodoli eisoes ymhellach.

Mae’r digwyddiad hwn yn cyflwyno’r rhaglen, yn esbonio sut mae’n gweithio, ac yn clywed gan ymgeiswyr blaenorol am eu profiad o gymryd rhan yn y rhaglen hon.

[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”COFRESTRU” link=”https://hubcymruafrica.cymru/hcaevents/22-06-2022/”]