Seminar Merched, Rhyfel a Heddwch
Gyda’i harddangosfa fyd-enwog o’i chwmpas, bydd y ffoto-ohebydd Lee Karen Stow yn siarad am ‘Ferched, Rhyfel a Heddwch’. Bydd trafodaeth banel i ddilyn ynghylch merched Cymru mewn rhyfel a heddwch o’r Rhyfel Byd Cyntaf hyd heddiw, o Bererindod Heddwch y Merched, y Ddeiseb i America a WILPF (Cynghrair Rhyngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid) yn ystod y dauddegau, i ymgyrch Comin Greenham a Women2Women4Peace.
Y Ffoto-ohebydd Rhyngwladol Lee Stow gyda Heddwch Nain