Sgwrs Atal Caethwasiaeth

Athro Llywodraethu Byd-eang ac Is-gadeirydd y Prosiect Prydeinig ac Americanaidd, Prifysgol De Cymru

Partneriaid: Prifysgol De Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, mae oddeutu 13,000 o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yn y DU, a mwy na 40 miliwn yn fyd-eang. Bydd y drafodaeth hon yn cwmpasu caethwasiaeth ar ein stepen drws, straeon gan un a oroesodd y profiad o gael ei fasnachu sydd bellach yn fardd adnabyddus (Eric Ngalle Charles), a gwybodaeth am y gwaith a wneir i gefnogi dioddefwyr yn lleol ac yn fyd-eang.