Cofrestwch Yma (Eventbrite)
Ymuno – Zoom
“We appeal to you at this turning point in the world’s history.
With you we believe that… international policies should secure equal rights for all races,
With you we believe in a warless world,
and with you we would dedicate ourselves to its achievement .”
Rhwng 10 a 12 Rhagfyr, 1925, roedd arweinwyr eglwysi’r Unol Daleithiau yn cwrdd yn Detroit ar gyfer eu Cyngres flynyddol. Ar raglen y diwrnod ar gyfer y 10fed, oedd araith gan Gwilym Davies, oedd wedi teithio’r holl ffordd o Gymru i gyflwyno ‘Apêl arweinwyr crefyddol yng Nghymru at Gyngor Eglwysi Crist yn America’. Roedd yr Apêl yn cynnwys llofnodion arweinwyr 22 enwad Cristnogol, yn cynrychioli miloedd o Gristnogion Cymreig, ac yn gofyn i’r Cyngor i gefnogi amcanion Cynghrair y Cenhedloedd er mwyn sicrhau Heddwch byd-eang.
Cofrestwch Yma (Eventbrite)

