Teithi Tywys o’r Deml

Wedi’u tywys gan dywyswyr gwirfoddol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae’r teithiau hyn yn cynnig cipolwg o hanes cyfoethog y Deml, gan fanteisio ar ymchwil a wnaed i’r adeilad, y bobl a’r mudiadau a ysbrydolwyd gan yr ymgais i sicrhau heddwch. Dyma gyfle i weld y bensaernïaeth, y symboliaeth, y gofodau – Neuadd y Cenhedloedd, y Gladdgell, Gardd Heddwch Cymru – gwleidyddiaeth rhyfel a heddwch, ac yn fwy na dim, y bobl y mae eu hangerdd tuag at heddwch wedi siapio Cymru.

https://www.eventbrite.co.uk/e/guided-temple-tour-teithi-tywys-or-deml-tickets-50391959708