Date/Time
Date(s) - 25/01/2022 - 26/01/2022
8:30 am - 7:30 pm
Categories
Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dod ag unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ar draws y byd at ei gilydd. O grwpiau cymunedol bach i ganghennau o gyrff anllywodraethol rhyngwladol yng Nghymru, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru.
Y llynedd, oherwydd dechrau pandemig byd-eang, cafodd ein huwchgynhadledd flynyddol ei symud ar-lein am y tro cyntaf. Cyflwynodd hyn heriau a chyfleoedd. Er nad oeddem yn gallu cwrdd, cyfarch, rhwydweithio a dal i fyny’n bersonol, roeddem yn gallu cyrraedd mwy o bartneriaid ar draws y byd, mewn fformat a oedd yn caniatáu ar gyfer gwylio’n hyblyg.
I gyd-fynd â symud ein huwchgynhadledd ar-lein, cafodd ei hailenwi hefyd, o’r Uwchgynhadledd Datblygu Rhyngwladol i’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang. Fel sefydliad, sector a chymdeithas, rydym wedi bod ar daith o hunan-ddarganfod ynglŷn â sut rydym yn siarad, yn gweithredu ac yn rhyngweithio â phartneriaid a chymunedau lleiafrifoedd. Rhan allweddol o’r daith hon yw prosiect #ReframingTheNarrative Hub Cymru Africa, sy’n ceisio herio a newid y ffordd rydym yn siarad ac yn meddwl am y sector cymorth o un sy’n llawn rhagdybiaethau ôl-drefedigaethol problemus, i un o undod, parch a gwella.
Felly, ymunwch â ni ar gyfer Uwchgynhadledd Undod Byd-eang eleni. Ymunwch â’r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio’r hashnod #GlobalUndod2022 ar y cyfryngau cymdeithasol. Drwy gofrestru unwaith, gallwch gael mynediad i’n holl sesiynau ar draws y ddau ddiwrnod.