Fy Lle, Eich Lle, Ein Lle

Trosolwg:

 

Mae’r prosiect tair blynedd hwn a’i weithgareddau yn seiliedig ar ddatblygu ‘profiad hunaniaeth’ – sef cyfres o weithgareddau strwythuredig sy’n galluogi disgyblion i rannu eu profiadau a’u hunaniaethau, ac i feddwl yn adeiladol am sut mae’r rhain yn cymharu â disgyblion o wledydd eraill

Byddwn yn dilyn cyfres o dair o themâu sydd â chysylltiad agos â’i gilydd:
•Rhannu ein hunaniaeth
•Meddwl am wahaniaethau a rhagfarn
•Byw’n heddychlon gyda’n gilydd
Mae’r prosiect hwn yn pwysleisio pwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol- sut mae gwahanol agweddau o gefndir diwylliannol yn dylanwadu ar ein hunaniaethau. Byddwn yn ei gwneud hi’n flaenoriaeth hefyd, i weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol ac / neu sydd dan anfantais, ac yn mynd i’r afael â math arall o wahaniaethu.
Ein nod yw cefnogi disgyblion i rannu eu hunaniaeth gydag eraill, ac archwilio pethau mewn cyffredin a gwahaniaethau trwy drafodaethau rhyngddiwylliannol cryf. Bydd y canlyniadau’n cael eu llwytho i fyny ar gronfa ddata ddigidol, a fydd ag amrywiaeth o gyfryngau arni, gan gynnwys ffilm, cyfweliadau, codau QR sy’n ymwneud â gwybodaeth bellach, animeiddiad ac yn y blaen.
Bydd y prosiect hwn yn rhoi syniadau, cysyniadau a phrosiectau i athrawon i weithio gyda’u disgyblion, ac i geisio eu denu i gael eu barnau eu hunain ar eu diwylliannau presennol yn ogystal â’u diwylliant hanesyddol. Ni waeth beth fo cefndir ac ethnigrwydd y disgyblion sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn, bydd ganddynt yr offer a’r sgiliau dysgu i ymchwilio i’w diwylliannau amrywiol eu hunain, lle bo angen, ac i fod yn falch o’u treftadaeth. Bydd ganddynt y sgiliau hefyd, i ymgysylltu’n effeithiol â threftadaeth disgyblion eraill o wledydd a chefndiroedd amrywiol, a’r hyder i drafod gwahaniaethau diwylliannol yn agored ac ar unwaith. Bydd yn datblygu sgiliau digidol athrawon hefyd.
Bydd rhieni a rhanddeiliaid allweddol yn gallu gweld y prosiect fel enghraifft o ragoriaeth mewn addysgu, a pharhau i ddatblygu’r prosiect yn y dyfodol.
Ar ôl ei gwblhau, byddwn yn disgwyl i ysgolion sy’n rhan o’r prosiect barhau i fod yn rhan o’r sbardun ar gyfer datblygu disgyblion sydd â mwy o sgiliau cyflogadwyedd.

Pwy sydd ynghlwm?

Ysgolion (Rhieni, athrawon, disgyblion, gofalwyr, pobl hŷn yn y gymuned) ac Awdurdodau Lleol o:

  • Gymru
  • Twrci
  • Sbaen
  • Rwmania

Mae’r partneriaethau hyn yn cael eu ffurfio trwy adran Cysylltu Ysgolion Rhyngwladol Cyngor Caerdydd; Rhwydwaith Awdurdodau Lleol Ewrop (ELAN.  Yng Nghymru, bydd Cyngor Caerdydd yn arwain y rhaglen; gan ddefnyddio ei dîm sy’n tyfu a Fframwaith Cymwysedd Digidol Cymru.

 

Gweithgareddau wedi’u cynllunio:

1. 6 o gyfarfodydd rhyngwladol gyda phartneriaid i gyfnewid arferion da a chynllunio gweithgareddau
2. 3 o weithgareddau cysgodi swyddi i alluogi athrawon i arsylwi arferion mewn ysgolion partner a chymryd rhan mewn profiad addysgu ar y cyd
3. Tri o raglenni cyfnewid ysgolion tymor byr ym mhob gwlad bartner gyda disgyblion o Gymru, Twrci, Sbaen a Rwmania. Bydd hyn yn caniatáu iddynt arsylwi’r addysgu a dysgu mewn gwlad sy’n wahanol i’w gwlad eu hunain, a chyfarfod i drafod deunyddiau dosbarth o bersbectif y dysgwr. Bydd hyn yn galluogi i lais y disgybl gael ei glywed drwy gydol y prosiect
4. Trefnu nifer o gynadleddau ym mhob gwlad bartner; bydd y rhain yn cyflwyno’r adolygiad o effaith fel modd o ledaenu’r newidiadau mewn ymwybyddiaeth ddiwylliannol sydd wedi digwydd oherwydd y trafodaethau rhyngwladol a sefydlwyd yn ystod y prosiect.

 

EU-flag-Erasmus+_vect_POS