O 7 diwrnod hyd at fis mewn gwersyll gwaith yn Ewrop neu dramor! Os ydych chi’n chwilio am gyfle i wirfoddoli dramor, rydych chi yn y lle iawn! Edrychwch ar ein cyfleoedd mwyaf newydd, a dysgwch am brofiadau pobl eraill!
Yn gyffredinol, mae’r lleoliadau’n para 2 – 4 wythnos, ac yn cynnwys grŵp o tua 5 – 20 o wirfoddolwyr. Mae’r rhain yn digwydd yn bennaf rhwng mis Mehefin – Medi. Bydd gwirfoddolwyr yn elwa o’r rhyngweithio o fewn y grŵp a chyda’r cymunedau lleol. Mae gwersylloedd gwaith yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr deithio i wlad arall, defnyddio eu hamser yn gynhyrchiol, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned leol. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i ehangu eu gorwelion drwy gyfarfod a dysgu oddi wrth ei gilydd a phobl leol.
Mathau penodol o wersylloedd gwaith:
Gwersylloedd gwaith i blant yn eu harddegau:
Mae’r gwersylloedd gwaith hyn wedi’u hadeiladu o amgylch gwirfoddolwyr iau rhwng 16 a 25 oed. Mae rhai yn cael eu cyfyngu i blant dan 18 oed yn unig, i greu lle diogel i wirfoddolwyr ifanc sydd yn mynd dramor am y tro cyntaf. Fel arfer, maen nhw’n cynnwys mwy o weithgareddau hamdden a hwyl ochr yn ochr â’r gwaith gwirfoddol, i’w wneud yn addas ar gyfer y grŵp oedran.
Gwersylloedd i Bobl Hŷn a Theuluoedd:
Mae’r gwersylloedd hyn wedi’u hadeiladu ar gyfer teuluoedd a phobl (dros 50 oed fel arfer), er mwyn iddynt fedru dod at ei gilydd a chael profiad gwirfoddoli gyda gwirfoddolwyr eraill sydd tua’r un oed neu sydd gyda sefyllfa deuluol tebyg.
Prosiectau rhithwir:
Yn caniatáu i bobl ymuno â grŵp o wirfoddolwyr yn rhithwir. Mae’r mathau hyn o wersylloedd yn caniatáu i bobl gysylltu er gwaethaf sefyllfa’r pandemig, ac ehangu amrywiaeth y rheini sy’n cymryd rhan yn y prosiectau.
Costau:
Rydym yn codi ffi weinyddol o £299 ar gyfer bob prosiect, sy’n mynd tuag at waith elusennol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac sy’n talu am eich hyfforddiant cyn gadael, costau gweinyddol, cymorth personol a sesiwn rhoi adborth ar y sgiliau y gwnaethoch chi eu dysgu ar ôl i chi ddychwelyd. Mae costau penodol y prosiect ar gyfer llety a bwyd yn cael eu disgrifio ym manylion pob prosiect. Rydym eisiau i bob person ifanc yng Nghymru gael mynediad at ddinasyddiaeth fyd-eang a phrofiad cyfnewid rhyngwladol – Siaradwch gyda ni am y cyllid sydd ar gael: volunteer@wcia.org.uk
Coronafeirws – y diweddaraf:
Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr sicrhau bod eu trefniadau teithio yn unol ag argymhellion mwyaf diweddar awdurdodau iechyd o ran lledaeniad y Coronafeirws.Gwiriwch argymhellion iechyd a rheoliadau Covid gwlad y prosiect cyn gwneud cais a theithio, gan y gallai cyfyngiadau fod yn berthnasol.
Cyfleoedd Newydd
Denmarc: Cyfarfod Diwylliannol yn yr Ysgol a’r Kindergarten
(Denmarc, 23/07/2022- 05/08/2022)
Tasgau i’w cyflawni:
– Adnewyddu’r ysgol yn Yerevan
– Gweithio gyda phlant
Cofrestrwch yma (and add in code search MS12)
Yr Eidal: Agape
(Yr Eidal, 27/08/2022 – 10/09/2022)
Tasgau i’w cyflawni:
– y cyfle i gyfarfod pobl ifanc o bob rhan o’r byd
– gwaith cynnal a chadw
– cegin (paratoi bwyd)
Cofrestrwch yma (and add in code search LUNAR20)
Yr Eidal: Byddwch y newid yn 2022
(Yr Eidal, 31/07/22 – 13/08/22)
Tasgau i’w cyflawni:
– Gwaith adnewyddu a thirlunio o fewn dau barc dinas – Gwneud murluniau addurno
– Peintio rheiliau perimed
India: Cynorthwyydd Prosiect Plant Ffoaduriaid
(India, 1/11/18 – 23/12/22)
Tasgau i’w cyflawni:
– Trefnu gweithgareddau ysgogol i blant a rhieni
– Paratoi adroddiad ar gefndir pob plentyn
Pŵer Natur
(Germany, 31/07/22 – 14/08/2022)
Tasgau i’w cyflawni:
– Adeiladu iogwrt gyda’ch dwylo eich hun
– Helpu i ailwampio’r ardd
Mecsico: Sea Turtles Conservation Camp Leader IV
(Mexico, 21/09/2022 – 24/10/2022)
Tasgau i’w cyflawni:
– trefnu gweithgareddau gyda’r cydlynydd lleol
– cyflwyno adroddiadau o’r gweithgareddau a gynlluniwyd i Vive Mecsico
– trefnu gweithgareddau amser rhydd gyda’r grŵp
Cofrestrwch yma (and add in code search VIVE22.07)
India: Cynorthwyydd Cynnwys y We a Chynorthwyydd Ysgrifennu Blog
(India, 01/11/2019 – 31/12/23)
Tasgau i’w cyflawni:
– gweithio gyda chynnwys y we, ysgrifennu blog, golygu
– gweithgareddau ysgrifennu tysteba
Cofrestrwch yma (and add in code search RC-16/22)
Unol Daleithiau: ADFER ADEILADAU TAI
(Unol Daleithiau, 01/10/2021 – 28/10/2023)
Tasgau i’w cyflawni:
– Ailadeiladu cartrefi a ddifrodwyd gan lifogydd – Bydd gwirfoddolwyr di-grefft yn cael eu hyfforddi gan staff medrus
Apizaco
(Mecsico, 3/08/22 – 16/08/22)
Tasgau i’w cyflawni:
– Ymchwilio i’r rhywogaethau brodorol
– Adeiladu gardd newydd
– Monitro’r rhywogaethau sy’n ymweld â’r ardd
Cofrestrwch yma (and add in code search VIVE22.06)
Y Ffynon a’r Ffordd Rufeinig
(Ffrainc, 3/08/22 – 17/08/22)
Tasgau i’w cyflawni:
– Ail-greu’r hen ffynnon
– Glanhau’r llwybr Rhufeinig (hen lwybr masnach) a’i ail-adeiladu, er mwyn caniatau pobl i gerdded arno
Cofrestrwch yma (and add in code search CONCF-312)