Drwy ein rhwydwaith partner rhyngwladol dibynadwy, rydym yn cynnig prosiectau gwirfoddoli sy’n newid bywydau. Os ydych chi’n fyfyriwr ac yn ystyried gwneud gwahaniaeth yn ystod eich amser i ffwrdd, chwiliwch am ein prosiectau tymor canol (1 i 3 mis) neu hirdymor (3 i 12 mis) dramor i weithio mewn sefydliad yn y gymuned.
I ddod o hyd i’ch prosiect personol, sgroliwch i lawr i weld ein prosiectau, neu defnyddiwch y peiriant chwilio. I deilwra’r hyn rydych chi’n chwilio amdano a dod o hyd i’n prosiectau tymor canol a hirdymor, nodwch eich oedran ac yna, cliciwch ar y chwyddwydr i ddechrau chwilio, yna ticiwch eich dewis yn y bocs “length of stay” ar yr ochr chwith.
Costau:
Rydym yn codi ffi weinyddol o £299 ar gyfer bob prosiect, sy’n mynd tuag at waith elusennol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac sy’n talu am eich hyfforddiant cyn gadael, costau gweinyddol, cymorth personol a sesiwn rhoi adborth ar y sgiliau y gwnaethoch chi eu dysgu ar ôl i chi ddychwelyd. Mae costau penodol y prosiect ar gyfer llety a bwyd yn cael eu disgrifio ym manylion pob prosiect. Rydym eisiau i bob person ifanc yng Nghymru gael mynediad at ddinasyddiaeth fyd-eang a phrofiad cyfnewid rhyngwladol – Siaradwch gyda ni am y cyllid sydd ar gael: volunteer@wcia.org.uk
Coronafeirws – y diweddaraf:
Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr sicrhau bod eu trefniadau teithio yn unol ag argymhellion mwyaf diweddar awdurdodau iechyd o ran lledaeniad y Coronafeirws.Gwiriwch argymhellion iechyd a rheoliadau Covid gwlad y prosiect cyn gwneud cais a theithio, gan y gallai cyfyngiadau fod yn berthnasol.
Cyfleoedd Newydd

Law yn Llaw
(Kyrgystan, 1/08/22 – 15/10/22)
Tasgau i’w cyflawni:
– Gweithio gyda phlant ag anableddau
– Cymryd rhan mewn gwahanol ddigwyddiadau, a’u trefnu

Cynorthwyydd Tîm Achub – Songkhla
(Gwlad Thai, nawr – 31/12/2022)
Tasgau i’w cyflawni:
– Gweithio fel cynorthwyydd yn y tîm achub
– Byw gyda’r gymuned leol

Môr y Canoldir
(Twrci, 16/07/22 – 30/09/22)
Tasgau i’w cyflawni:
– Trefnu gweithdai i blant am y NDCau
– Cymryd rhan mewn clybiau iaith Saesneg

Athro Saesneg Cymunedol
(Colombia, nawr – isafswm arhosiad o 3 mis)
Tasgau i’w cyflawni:
– Annog dysgu sgiliau iaith yn rhyngweithiol
– Cymryd rhan mewn clybiau Saesneg eu hiaith ar gyfer plant a phobl ifanc
– Dysgu Saesneg i blant
Heb weld beth ydych chi’n edrych amdano? Gwiriwch ymaam fwy o gyfleoedd!