Mae gwirfoddoli rhyngwladol yn ffordd anhygoel o brofi’r byd. Mae’n cynnig y cyfle i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ryngddiwylliannol rhwng cymunedau ac ehangu eich gorwelion.
Drwy ddod at eich gilydd a gweithio fel rhan o dîm rhyngwladol ar brosiect cymunedol lleol neu gyda sefydliad dielw, gallwch ddysgu am wahanol ddiwylliannau, agweddau a ffyrdd o fyw, a chael effaith gadarnhaol.
“Nid yw calon gwirfoddolwr yn cael ei fesur yn ôl maint, ond yn ôl dyfnder yr ymrwymiad i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill.”
DeAnn Hollins
Felly, os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli dramor, rydych chi yn y lle iawn! Chwiliwch am gyfleoedd newydd isod, a dewiswch beth sy’n gweddu orau i chi!
Pam Gwirfoddoli gyda WCIA? Mae ein prosiectau yn:
- Ystyrlon
- Yn y gymuned
- Nid er elw
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd gwirfoddoli, a thanysgrifiwch i gylchlythyr y gwirfoddolwyr!
Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith partner dibynadwy i ddarparu prosiectau gwirfoddoli yn Ewrop, Asia, Affrica ac America.