Hawlio Heddwch: Adnoddau ar gyfer Ysgolion

Hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru i America (1923) oedd efallai’r ‘stori gudd’ mwyaf dramatig ac ysbrydoledig a ddarganfuwyd yn ystod prosiect ‘Cymru dros Heddwch’ a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a aeth ati, yn ystod canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, i ddarganfod ac archwilio treftadaeth heddwch gyfoethog Cymru yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel hwnnw.

Nod y pecyn addysgol hwn a’r adnoddau atodedig y gellir eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim o’r dudalen hon yw cyflwyno’r darn anhygoel hwn o dreftadaeth heddwch i genhedlaeth newydd o blant a phobl ifanc, i’w hysbrydoli i ddarganfod mwy ac i weithredu drostynt eu hunain i sicrhau heddwch. Mae’r pecyn yn cynnwys gweithgareddau cychwynnol i gyflwyno’r stori i blant oed cynradd ac uwchradd, ynghyd ag adnoddau ategol. Ceir wedyn awgrymiadau am weithgareddau dilynol trawsgwricwlaidd, gan gynnwys rhai sydd yn berthnasol i agwedd ‘cynefin’ y cwricwlwm a rhai i helpu plant a phobl ifanc i weithredu drostynt eu hunain er mwyn creu newid. Yn olaf, ceir rhestr o gyfeiriadau ac adnoddau i gefnogi ymchwil ac archwiliadau pellach.

Cewch hefyd ar y dudalen hon set o adnoddau a grëwyd gan Ysgol Gynradd Alaw, Trealaw, Rhondda Cynon Taf (yn Saesneg yn unig). Diolch i Alaw am eu haelioni wrth rannu’r adnoddau hyn.

Gobeithiwn y cewch fwynhad o’r adnoddau hyn. Os hoffech roi adborth neu rannu lluniau, blogiau neu fideos o’ch disgyblion yn eu defnyddio, a wnewch chi anfon y rhain at janeharries@wcia.org.uk.

Y Pecyn Addysgol

Adnoddau Ysgolion Cynradd

Adnoddau Ysgolion Uwchradd

Adnoddau Cyffredinol (Cynradd ac Uwchradd)

‘Hedfan Barcud dros Heddwch’

Adnoddau Ysgol Gynradd Alaw (yn Saesneg)