Stori gwirfoddolwr

Jennifer Thomas

Mae Hub Cymru Affrica, sy’n dod dan ofal Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn bartneriaeth sy’n cefnogi cymunedau Cymru Affrica a Masnach Deg yng Nghymru. Lansiodd y mudiad raglen wirfoddoli newydd yn 2018 sydd hyd yn hyn, wedi cynnwys 10 o wirfoddolwyr mewn prosiectau datblygu rhyngwladol yng Nghymru.

Meddai Cathie Jackson, sy’n cydlynu gwirfoddolwyr ar gyfer Hub Cymru Affrica ac a ddatblygodd y cynllun: “Mae ein rhaglen wirfoddoli wedi’i chynllunio i roi blas i bobl ar ddatblygu rhyngwladol, ac i adeiladu eu sgiliau yn ogystal â chynnig eu galluoedd i’r sector.”

Stori gwirfoddolwr

Ar ôl graddio o’r brifysgol, penderfynodd Jennifer ddilyn gyrfa ym maes datblygu rhyngwladol ar ôl gwirfoddoli yn Ne Affrica am fis. Ar ôl astudio Gwleidyddiaeth gyda Chysylltiadau Rhyngwladol, roedd ganddi ddiddordeb mewn sut mae mudiadau dielw yn cyfathrebu â llywodraethau, a sut mae
prosiectau ar bapur yn cael eu gwireddu.

Treuliodd Jennifer amser yn gwirfoddoli gyda Hub Cymru Affrica, prosiect sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bu’n helpu gyda thasgau swyddfa cyffredinol ac ymchwil, a gyda digwyddiadau. “Fy hoff rôl gyda HCA oedd paratoi ar gyfer digwyddiadau a mynychu digwyddiadau. Dyma oedd yr uchafbwynt. Dysgais fwy am sut i gyfathrebu â’r llywodraeth a mudiadau dielw, a chefais y cyfle i gyfarfod a rhwydweithio â ffigurau a mudiadau dylanwadol eraill.”

“Rwy’n credu fy mod i wedi gwneud defnydd da o’r amser a dreuliais yn gwirfoddoli – llwyddais i gyflawni fy nodau, ac rwy’n hyderus y gallaf ddefnyddio’r profiad a’r wybodaeth a gefais i fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa fy hun, wrth i mi ddechrau gwneud cais am swyddi yn y sector.” Mae Jennifer yn gobeithio gwirfoddoli gyda’i grŵp Masnach Deg lleol yng Nghas-gwent.

Anfonwch e-bost at enquiries@hubcymruafrica.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda Hub Cymru Affrica.