Cwrdd â’n Partneriaid Alliance yn Hwngari 

Chris ydw i, Swyddog Gweinyddol Gwirfoddoli newydd WCIA ac ym mis Ionawr, treuliais wythnos yn Hollókő, Hwngari, mewn gwersyll hyfforddi oedd yn cael ei redeg gan Gynghrair Sefydliadau Gwasanaethau Gwirfoddol Ewrop ar gyfer swyddogion lleoliadau newydd. Roedd hwn yn gyfle gwych i gwrdd â chyfoedion mewn rôl debyg ac sydd ar gam tebyg i mi yn eu gyrfa, cyn i ni fod yn gweithio gyda’n gilydd yn y Cyfarfod Technegol ym mis Chwefror yn Barcelona. Mae’n dda gallu rhoi wyneb i lofnod e-bost, a gwneud yn siŵr bod pob sefydliad yn gweithio i’r un safonau. 

Un o uchafbwyntiau’r hyfforddiant oedd ymarfer chwarae rôl ar ddatrys problemau, lle gwnaethom eistedd yn gweithio mewn grwpiau, ac anfon ‘e-byst’ wedi’u hysgrifennu â llaw ymlaen at grwpiau eraill ar ddarnau o bapur i ddatrys problemau wrth weithio gyda phartner rhyngwladol. Roedd yn ddiddorol gweld cymaint haws oedd cyfathrebu o fewn ein sefydliad ein hunain mewn person, cyn ceisio cyfleu ein hymateb ysgrifenedig yn ofalus i’n partner rhyngwladol. 

Yn ogystal â chymryd rhan mewn hyfforddiant, fe wnaethom ddefnyddio ein hamser rhydd yn ystod yr wythnos i ddysgu ychydig am ddiwylliannau ein gilydd, a rhannu dawnsfeydd poblogaidd a chanu karaoke (fy ymddiheuriadau i Nena ac Enrique Iglesias am fy ymdrechion gwael). 

Fe wnes i fwynhau fy amser yn Hollókő, ac fe wnes i fanteisio ar rywfaint o amser rhydd cyn fy hediad i fynd o gwmpas Budapest ar ddydd Gwener yn yr eira. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â rhywfaint o wynebau cyfarwydd yn Barcelona fis nesaf. 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *