Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru yn grŵp o bobl ifanc sy’n ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd yng Nghymru ac ar draws y byd.

Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, a sefydlwyd yn 2020, yn fenter ddemocrataidd dan arweiniad pobl ifanc, sydd yn cael ei chefnogi gan Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Mae’r aelodau’n dod o bob rhan o’r wlad.

Mae’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r Senedd i gynrychioli lleisiau pobl ifanc ar lefelau uchaf gwleidyddiaeth Cymru. Maen nhw’n gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, llywodraeth leol, ysgolion, busnesau a Sefydliadau Anllywodraethol hefyd.

Prif flaenoriaethau Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid 2022/23 yw:

  • Codi ymwybyddiaeth am ffoaduriaid hinsawdd.
  • Cefnogi Pobl a chenhedloedd Brodorol
  • Codi ymwybyddiaeth am fioamrywiaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Mae prif gyflawniadau Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru yn cynnwys: 

  • Meithrin perthynas â Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn y DU. Ym mis Ebrill 2022, ymwelodd y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid â’r Llysgenhadaeth yn Llundain i drafod materion fel cyllid hinsawdd i Bobl Frodorol, ac ymrwymiad yr UDA i dargedau hinsawdd byd-eang.
  • Mynychu’r uwchgynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 yn Glasgow, a rhoi pwysau ar y bobl sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, y DU a thu hwnt i gynyddu eu hymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
  • • Cynnal yr Uwchgynhadledd Hinsawdd Ieuenctid gyntaf erioed yng Nghymru yn 2020, a rhoi llais i bobl ifanc a llwyfan i ddwyn y bobl sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru i gyfrif.
  • • Meithrin cysylltiadau â grwpiau brodorol dramor, ac ymgysylltu â chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio’n drwm gan yr argyfwng hinsawdd a datgoedwigo.
  • Siarad yn lansiad Cynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru yn 2021.
  • Dylanwadu’n llwyddiannus ar Strategaeth Newid Ymddygiad y Cyhoedd Llywodraeth Cymru, a fydd yn sicrhau bod Cymru’n dod yn genedl Sero Net erbyn 2050.
  • Helpu i sefydlu a chyd-gadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hinsawdd, Natur a Lles.
  •  Ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau yng Nghymru ac mewn digwyddiadau hinsawdd, i gynrychioli pobl ifanc ar newid hinsawdd.

Frequently Asked Questions

Beth yw pwrpas Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru?

Pwrpas Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru ydy rhoi llais i bobl ifanc ar newid hinsawdd, ac ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd yng Nghymru ac ar draws y byd.

Pa grwpiau oedran mae’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid yn eu cynrychioli?

Mae’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid yn croesawu aelodau rhwng 13-25 oed.

Pwy sy’n trefnu’r fenter? 

Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru sy’n hwyluso a chefnogi’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, ond yr aelodau sy’n gwneud pob penderfyniad pwysig.

Sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud?

Mae aelodau’n gwneud pob penderfyniad yn ddemocrataidd, gan gynnwys etholiadau ar gyfer rolau allweddol fel y Cadeirydd.

Sut y gallaf gymryd rhan?

Os hoffech ymuno â grŵp ymgynghori’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, e-bostiwch yca@sizeofwales.org.uk. Anfonwch baragraff byr yn esbonio pam eich bod chi eisiau gweithredu ar yr hinsawdd, a pham yr hoffech chi ymuno â’r fenter. Dylech gynnwys eich enw, rhagenwau, oedran, cyfeiriad e-bost, a rhif ffôn.

Oes angen i mi wybod llawer am newid hinsawdd i gymryd rhan?

Dim o gwbl. Dylai bod yn rhan o’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid fod yn brofiad addysgol a grymusol. Drwy gymryd rhan, byddwch yn dysgu mwy am y materion hyn, ac yn cael y cyfle i leisio’ch barn.

Sut ydw i’n cysylltu os oes gennyf unrhyw gwestiynau?

I gysylltu â Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, anfonwch e-bost at YCA@sizeofwales.org.uk,

Dilynwch YCA ar Twitter / X a Instagram. Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Maint Cymru yma, a