
Rydym yn torri calon i rannu bod ein ffrind a’n cydweithiwr, a Phennaeth Hub Cymru Africa, Claire O’Shea, wedi marw’n dawel y bore ‘ma gyda’i theulu o’i chwmpas.
Roedd Claire yn arweinydd cymdeithas sifil angerddol ac yn ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol, ac mae ei heffaith wedi bod yn enfawr. Cysegrodd ei bywyd i wneud y byd yn lle gwell yn y meysydd addysg ac iechyd, unigrwydd, cynhwysiant a chyfiawnder byd-eang.
Ers ymuno â Hub Cymru Africa ym 2019, daeth Claire yn arweinydd mewn undod byd-eang a datblygu rhyngwladol. Roedd hi’n eiriolwr brwd ynghylch y pwysigrwydd o helpu’r rhai mewn angen, er gwaethaf ffiniau, ac roedd hi’n angerddol dros ben am undod byd-eang, hyd yn oed wrth i’w hiechyd ei hun waethygu.
Mae pawb yn Hub Cymru Africa, ac yn y sector ehangach a thu hwnt, yn teimlo tristwch mawr am y golled, ond bydd etifeddiaeth Claire yn y maes undod byd-eang yn parhau i gael ei deimlo am flynyddoedd i ddod. Mae gennym ddyletswydd i Claire i barhau â’i gwaith, i eiriol dros newid, i fynnu cyfiawnder ac i greu byd mwy cyfartal.
“Mae teulu estynedig cyfan y ‘Deml Heddwch,’ yng Nghymru ac ar draws y byd, yn ymestyn ein meddyliau dwys i deulu Claire, ei ffrindiau a’i chydweithwyr – ac yn talu teyrnged i’w chyfraniad gwych gydol oes i ryngwladoldeb Cymreig, cymdeithas sifil a chyfiawnder cymdeithasol. Bydd hi’n seren ddisglair iawn yn y nen; ond mae ei cholled yn cael ei deimlo’n gryf. Gorffwysa mewn Pŵer Claire.”
Hayley Morgan, WCIA