Mae Oxfam wedi ymuno â’r Brifysgol Agored i gynnig cwrs 8 wythnos am ddim o’r enw ‘Sicrhau Newid’. Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at gryfhau’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd i’r afael ag anghyfiawnder, ac at gyflwyno newid cadarnhaol i’r byd. Byddwch yn cael eich arwain gan enghreifftiau o fudiadau rhyngwladol a gweithredu cymunedol, ac yn cysylltu gydag ymarferwyr ar draws y byd.
Gallwch gofrestru am ddim yma, Mae’r cwrs hwn yn dechrau ar 4 Mawrth!