Darn meddwl : Sut allwn ni greu Cymru well ar ôl Brexit?

Cyhoeddwyd cyfres o ddarnau meddwl a phodlediadau gan CGGC i ganolbwyntio ar ddyfodol lles yng Nghymru.

Ysgrifennodd ein Prif Swyddog Gweithredol Susie Ventris-Field a Gethin Rhys o Cytûn, darn o dan y teitl ‘Ymateb i’r argyfwng hinsawdd’

Mae’r heriau a grybwyllir yn y darn meddwl yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, a chysylltu’r lleol a byd-eang trwy ddatblygu masnachu a chydberthnasau eraill.

Gellir clywed y pâr hefyd yn trafod yr heriau y gall y sector gwirfoddol yng Nghymru helpu i’w bodloni o ran yr argyfwng hinsawdd ar y podlediad.

Gwrandewch ar y podlediad yma – Cymru: edrych y tu hwnt i Brexit