“Rydym yn hapus dros ben bod nifer o raglenni WCIA yn cael eu cydnabod fel rhai sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy,” meddai Susie Ventris-Field, Prif Swyddog Gweithredol WCIA.
Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd ar ôl llawer o ymgynghori ac sy’n seiliedig ar brofiad Nodau’r Mileniwm, yn nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, lle mae bywydau’n cael eu trawsnewid a’r blaned yn cael ei diogelu. Mae llywodraethau’n atebol am eu cynnydd, a thro Llywodraeth y DU ydy cyflwyno ei Hadolygiad Gwirfoddol Cenedlaethol.
Mae’r adroddiad yn fanwl, ac yn cwmpasu pob un o’r 17 o nodau cysylltiedig. Mae’n cynnwys persbectif datganoledig, ac yn cydbwyso gweithredoedd domestig a rhyngwladol. Mae WCIA yn falch iawn bod rhai o’n rhaglenni’n cael eu hamlygu fel rhai sy’n gwneud cyfraniad tuag at gyflawni’r Nodau hynny. Mae’r Cynllun Ysgolion Heddwch yn ceisio gwella ansawdd addysg (Nod 4) a hyrwyddo heddwch (Nod 16) trwy ddatblygu diwylliant o heddwch sy’n seiliedig ar hawliau dynol ac ar ddatrys problemau di-drais mewn ysgolion a’u cymunedau lleol. Dywed yr adroddiad, “Mae’r prosiect wedi lleihau cofnodion o ymddygiad negyddol; mwy o gyfranogiad mewn llais y disgybl (cynnydd o 300%); mwy o ymgysylltu mewn gwasanaethau; a gweithredu yn y gymuned. ” Cafodd y prosiect Creu Newid, a gyflwynwyd gydag Oxfam Cymru mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru, sy’n datblygu sgiliau dinasyddiaeth fyd-eang, ei gydnabod am ei gyfraniad tuag at addysg o safon. Cyfeiriwyd hefyd at y prosiect cydweithredol gyda Maint Cymru, sy’n darparu cynadleddau ffug Mock COP y CU rhanbarthol i ysgolion ar newid yn yr hinsawdd. Mae’r prosiect yn annog ac yn ysbrydoli hyrwyddwyr hinsawdd, a chafodd ei enwi hefyd am gefnogi Nod 13-Gweithredu ar yr Hinsawdd.
Mae’r adroddiad Adolygiad Gwirfoddol Cenedlaethol wedi cael ei feirniadu am beidio â chynnwys lleisiau unigolion mwy bregus. Fodd bynnag, mae hefyd yn ymarfer mapio i raddau helaeth o’r hyn sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. “Mae Adolygiad Gwirfoddol Cenedlaethol y DU yn colli’r cyfle i osod cynllun gweithredu’r DU ar sut i gyrraedd y nodau byd-eang hyn,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol, Susie Ventris-Field.
Mae rhywfaint o bryderon am yr adroddiad; gellid bod wedi gwneud mwy o waith dadansoddi a synthesis. Does gan y DU ddim cynllun clir a phenodol o hyd ar sut i gyflawni uchelgeisiau’r NDCau. Mae’r data a ddefnyddir yn ddetholus ac ar brydau, yn anghyson o un adran i’r llall. Mae angen i Lywodraeth y DU gysylltu polisi ar fasnach, ynni a defnydd gyda’r angen i gyflawni’r Nodau. Mae’n ymddangos bod ymrwymiad lefel uchel i’r Nodau hyn ar goll, ac unwaith y bydd yr adroddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig, nid dyna ddiwedd y broses. Bydd WCIA yn parhau i arwain yng Nghymru i annog y DU i ddatblygu ei hymrwymiad i’r Nodau ar lefel ryngwladol.