Rownd Derfynol Gyffrous ar gyfer y Bencampwriaeth Dadlau

Roedd yr ystod gyffrous o ddadleuon ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru yn cynnwys ffeministiaeth, babanod wedi’u haddasu’n enetig, rôl amddifadedd cymdeithasol o ran achosi trosedd, gwahardd perfformwyr sy’n blant, a chodi tâl ar bobl am driniaeth ar gyfer materion iechyd sy’n gysylltiedig â dewisiadau ffordd o fyw. Cystadlodd myfyrwyr talentog o bum ysgol i geisio ennill y cystadlaethau siaradwr unigol a’r tîm buddugol yn y Pencampwriaethau.

Enillwyd y gystadleuaeth tîm gan Dagmawi Yosief a Restam Ehmo Agha o Ysgol Howell’s, a daeth Sophia Wallo a Gethin Jones o Goleg Menai yn ail. Llwyddodd y ddau dîm i fynd trwy rowndiau cynderfynol caled iawn yn y bore, lle cafwyd perfformiadau cryf iawn gan dimau o Goleg Chweched Dosbarth Caerdydd ac Ysgol Dyffryn Aman.

Meddai Arianne Banks, a enillodd y gystadleuaeth siaradwr unigol; ‘Dwi wir wedi mwynhau siarad yn Siambr y Cyngor yn y Deml Heddwch. Mae dadlau wedi rhoi sgiliau bywyd i mi a fydd yn werthfawr yn y dyfodol.”

Mae’r holl gyfranogwyr yn mwynhau’r elfen gystadleuol i’r steil hwn o ddadlau, er bod Dag, aelod o’r tîm buddugol wedi dweud, “mae’n straen, ac rwy’n aml yn meddwl ar ôl cystadleuaeth, dyna fy un olaf, ac yna, rwy’n dod nôl am fwy.”

Mae WCIA, sy’n cael cymorth ariannol hirsefydlog gan Sefydliad Hodge, wedi rhedeg y gystadleuaeth ers blynyddoedd lawer. Y nod yw sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i gynifer o ysgolion â phosibl. Bydd dyddiadau hyfforddiant a chystadleuaeth y flwyddyn nesaf ar gael yn fuan.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *