Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24

Yn 1923, gydag erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi ysbrydoli cenhedlaeth yn erbyn gwrthdaro, trefnodd merched Cymru ymgyrch nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen dros heddwch byd. Llofnododd 390,296 o ferched ddeiseb Goffa drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn galw am ‘Cyfraith nid Rhyfel’ – i America ymuno, ag arwain y Cynghrair y Cenhedloedd newydd – drwy apelio at ferched America ‘o gartref i gartref’.

Goleuwyd Llyfr Coffahyfryd mewn lledr a memrwn ac arno lythrennau aur gan Emily West. Fe’i cynhyrchwyd gan Wasg Gregynog y chwiorydd Davies. Hefyd, cist dderw fawr a grëwyd gan E J Hallam. Roedd yn cynnwys llofnodion i’w gyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, a’i gadw ‘er pob amser’ i Sefydliad y Smithsonian yn Washington.  Roedd ymgyrch Deiseb Meddwch Merched 1923 ymdrech wir ryfeddol ledled Cymru oedd yn ymron yn cynnwys pob cartref yng Nghymru, gydag ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gyda chymorth trefnwyr sir a chymuned y ‘Gynghrair’. Nododd y wasg yn Efrog Newydd fod y ddeiseb derfynol a gyflwynwyd i ferched America ragor na 7 milltir o hyd.

Tair ffilm fer gan Tracy Pallant a Amy Peckham (chwith); Ffilm fer gan Llywodraeth Cymru (uchod)

Teithiodd dirprwyaeth, dan arweiniad Cadeirydd Cynghrair y Cenhedloedd Annie Hughes Griffiths, o Gymru i America ym Mawrth 1924 ar ‘Daith Heddwch’ o’r Unol Daleithiau, a chafod gefnogaeth sefydliadau merched America oedd yn cynnwys rhagor na 20 miliwn o bobl. Fe ymunodd y 9 rhwydwaith / sefydliad yr oedd y ddirprwyaeth Gymreig yn gweithio ohoni, i ffurfio’r ‘Gynhadledd ar Achos a Chur Rhyfel’ yn ymateb i’r daith – a daeth yn hynod ddylanwadol mewn cymdeithas yn America yn sgil yr Ail Ryfel Byd.

Un o’r eitemau mwyaf a drysorir yn Archifau’r Deml Heddwch yw Deiseb Heddwch Merched, ochr yn ochr â chasgliadau gan Gynghrair y Cenhedloedd. Mae’r WCIA yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill i ddathlu canmlwyddiant yr ymgyrch anhygoel yma yn 2023-24.