Dr. Rowan Williams to become Chair of Academi Heddwch

Today, on the International Day of Peace, Academi Heddwch Cymru is delighted to announce that the former Archbishop of Wales and Canterbury, Professor Rowan Williams, will be its first Chair.

Dr. Rowan Williams, former Archbishop of Canterbury.

‘Mae cael croesawu Dr Rowan Williams i gadair Academi Heddwch yn benllanw llawen iawn i flwyddyn gyntaf yr Academi. Rydym yn diolch i Dr Aled Eirug a Dr Einir Young am lenwi’r bwlch dros dro, ac yn edrych ymlaen at gael cwmni’r tri wrth i’r Academi ddatblygu ei rhaglen waith.’

Dr. Rowan Williams, ar ôl gwneud y cyhoeddiad hwn:

Cefndir

Amcanion cyffredinol Academi Heddwch yw sicrhau bod:

  • Cymru’n gwneud cyfraniad i ymchwil ac ymarfer heddwch, gyda’r ymchwil hwnnw o ansawdd a gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol
  • ffocws ar heddwch i’w weld yn strategaethau a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru
  • y cyhoedd yn ymddiddori’n fyw yn ymchwil ac ymarfer heddwch yng Nghymru

Yn 2014 cefnogodd y Senedd/Cynulliad Cenedlaethol egwyddor sefydlu yr Academi Heddwch, gan gydnabod y gallai ‘ychwanegu gwerth i waith y Cynulliad ac i gymdeithas ddinesig yn ehangach’.  Arweiniodd hyn at sefydlu Menter Academi Heddwch Cymru (elusen fach a ffurfiwyd yn 2015). Nod Menter Academi Heddwch Cymru oedd sefydlu Academi Heddwch Cymru a gwnaed hynny y llynedd ar Fedi 21, 2020.

Drwy ddatblygu a chyd-drefnu cymuned annibynnol o ymchwilwyr mewn meysydd cysylltiedig, mae Academi Heddwch wedi dechrau ar y gwaith o roi heddwch yn gadarn ar yr agenda cenedlaethol. Ar y llwyfan rhyngwladol, mae eisoes wedi sefydlu cysylltiad gyda rhai o sefydliadau heddwch y byd.

Pam bod angen Academi Heddwch ? 

Mewn cyfnod o heriau cenedlaethol a byd-eang nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen, mae’n rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn llunio dyfodol heddychlon. Mae gwaith ysbrydoledig o ran heddwch eisoes yn digwydd yng Nghymru, ond gellir ei gydlynu a’i gydnabod yn well. 

Gwaith Diweddar

  • gweithio gydag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gynnal 6 digwyddiad yn y ‘Tent Tangnefedd’; gan gynnwys y Ddarlith Heddwch gyda Begoña Lasagabaster o’r Cenhedloedd Unedig; trafodaethau panel gydag arbenigwyr o Gymru a’r byd; perfformiad i gofio Srebrenica a darlleniadau gyda beirdd PEN Cymru a Gwlad y Basg;
  • cynnal seremoni Gwobrau Heddychwyr Ifanc, lle dathlwyd cyfraniadau pobl ifanc drwy’r wlad i faes heddwch. Roedd y gwobrau’n cynnwys gwobr yr ‘Heddychwr Ifanc’ a’r ‘Dinesydd Byd-eang Ifanc’;
  • cydlynu prosiect amlweddog sy’n bartneriaeth rhwng Cymru/Gogledd America i ddathlu canrif Apêl Merched Cymru, sef deiseb ryfeddol yn ‘hawlio heddwch’ ac a gasglodd ymron i 400,000 o lofnodion gan fenywod o Gymru.