Polisi ac Ymarfer, Astudiaeth ac Ymchwil Heddwch

 

 

 

 

 

Nod Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yw pontio’r bwlch rhwng cymdeithas sifil Cymru a chymunedau, academia a llunwyr polisi (Cymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop ac yn rhyngwladol) wrth gysylltu polisi ac arfer – gan uno meddylfryd byd-eang gyda gweithredu effeithiol ac ymarferol, ac i’r gwrthwyneb.

Yn ystod 2014-19, roedd rhaglen Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri) yn cefnogi rhwydweithio a datblygu ystod eang o fentrau academaidd a chymdeithas sifil – a fydd yn parhau yn ystod 2019-24 drwy ein rhaglen Gweithredu Byd-eang – gyda’r nod o ddatblygu’r canlynol:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth o Dreftadaeth Heddwch Cymru;
  • dylanwad rhyngwladoldeb ar hunaniaeth, gwleidyddiaeth a rhagolygon cenedlaethol Cymru heddiw; ac
  • effaith ar faterion cyfoes wrth lywio rhan Cymru yn y byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn ogystal â chyhoeddi ei chyfres o Nodweddion Heddychwyr ei hun, sy’n dwyn ynghyd darnau enfawr o waith ymchwil a gwaith gan amryw o gyfranwyr, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn parhau i gydweithio gydag academyddion ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a sefydliadau.

Roedd gwaith a wnaed drwy raglen Cymru dros Heddwch yn ystod 2014-19 yn cynnwys ymchwil ôl-raddedig, lleoliadau israddedig ac i fyfyrwyr, a chynadleddau academaidd / cymdeithas sifil a chyfnewidfeydd dysgu; mae rhai o’r prif enghreifftiau yn cynnwys:

Cefnogi ymchwil a chyhoeddiadau Ôl-raddedig / Doethurol

Lleoliadau Ymchwil Israddedig

  • Arolwg o Sefydliadau Heddwch Ledled y Byd, 2015 – Emily Forbes, Prifysgol Caerdydd
  • Nodweddion Ymchwil ‘Hanesion Cudd’ Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol, 2015 – Judith Newbold, Prifysgol Caerdydd
  • Treftadaeth Gwirfoddoli yng Nghaerdydd, 2016 – Hannah Sweetapple, Adran Hanes Prifysgol Caerdydd / Prosiect ‘Chronicle’ Canolfannau Gwirfoddol (Lleoliad 3 mis a ariannwyd gan Santander)
  • Arolygon Agweddau at Heddwch, 2017 – Trystan Cullinan, Astudiaethau Gwleidyddol Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad Archifau’r Deml Heddwch, Rob Laker (Hanes, Prifysgol Abertawe) ac Emily Franks (Cadwraeth, Prifysgol Caerdydd), haf 2019

Dod ag Academyddion Ynghyd a Rhannu Ymchwil

Dolenni at arbenigwyr ‘Treftadaeth Heddwch’ Cymru