Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i weithio tuag at y saith nod lles rhyng-gysylltiedig. O’r saith nod hwn, dim ond un sydd yn cydnabod effaith Cymru a pherthynas Cymr’n glir â gweddill y byd – sef y nod Cyfrifol ar Lefel fyd-eang.

Ond mae gennym ffordd bell i fynd cyn y gallwn honni ein bod ni’n genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn defnyddio llawer mwy na’i chyfran deg o adnoddau’r ddaear (Swaffield et al 2020). Rydym yn ariannu arferion niweidiol drwy fuddsoddiadau (UK Divest, heb ei ddyddio). Nid yw ein cadwyni cyflenwi yn rhydd o ddatgoedwigo (Buckland et al, 2021). Ac nid yw ein holl berthnasoedd â gweddill y byd wedi’u gwreiddio mewn partneriaeth a chydraddoldeb (WCIA, 2021).

Er mwyn gwneud cynnydd gwell, rydym angen i bawb sy’n rhan o gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddeall y nod o Greu Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang yn llawer gwell (WWF/Llywodraeth Cymru, 2018). Mae rhai’n nodi dimensiwn amgylcheddol y nod yn unig, neu’n drysu cyfrifoldeb byd-eang gyda chynnydd ar nodau domestig fel lleihau tlodi yng Nghymru. Tan yn ddiweddar, mae’r dangosyddion ar gyfer y nod hwn wedi’u diffinio’n wael, ac nid oes digon o gerrig milltir ar waith o hyd i greu cynnydd. Mae tystiolaeth hefyd o anghysondeb rhwng ymrwymiadau polisi ac ymarfer. Er enghraifft, mae Strategaeth Ryngwladol Cymru yn gosod Cyfrifoldeb ar Lefel Fyd-eang fel egwyddor ganolog, ond nid yw rhai o’r camau gweithredu yn y strategaeth yn cyd-fynd â’r nod hwn (WCIA, 2022).

Mae adroddiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 yn cydnabod y diffygion hyn, ac yn cyflwyno cyfres o argymhellion am sut y gall Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ymateb. Fodd bynnag, mae cyrff cyhoeddus angen arweiniad a chefnogaeth o hyd i ddatblygu hyn yn ymarferol.

Yn y papur byr hwn, rydym wedi casglu argymhellion gan sefydliadau ar draws y sector rhyngwladol, ac wedi defnyddio’r rhain i gyflwyno gweledigaeth bosibl o Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Rydym yn cyfeirio rhywfaint o adnoddau ac enghreifftiau rhagorol sydd wedi cael eu creu yn barod hefyd i gefnogi cyflawni’r nod; ac yn nodi rhai o’r rhanddeiliaid allweddol yn y sector rhyngwladol yng Nghymru sy’n rhan o’r ymdrechion hyn.

Ariennir gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Loader Loading...
EAD Logo Taking too long?

Reload Reload document
| Open Open in new tab