Mae Hub Cymru Affrica yn cynrychioli Cymru fel rhan o Gynghrair y DU, ochr yn ochr a Bond (Lloegr), rhwydweithiau cenedlaethol yr Alban (Cynghrair Datblygu Rhyngwladol yr Alban) a Gogledd Iwerddon (CADA).
Rydym yn gweithio gyda’n gilydd, trwy gytundeb cynghrair, i wneud y mwyaf o botensial ar y cyd eu holl sefydliadau i ddileu tlodi ac anghyfiawnder, yn seiliedig ar yr egwyddorion o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth.
Os hoffech wybod am y gwaith rydym yn ei wneud ar y cyd, gallwch anfon ebost atom i enquiries@hubcymruafrica.org.uk