Diweddariad misol ar Bolisïau – Gorffennaf/Awst

Mae Susie Ventris Field (Prif Weithreder WCIA) a Claire O’Shea (fel Cadeirydd WOAG) yn cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector – cyfle i’r trydydd sector yng Nghymru i fwydo mewn i bolisïau Llywodraeth Cymru. Yma, rydym yn rhannu ychydig o ddiweddariadau ar weithgarwch diweddar, a rhywfaint o gyfleoedd sydd ar y gweill i chi roi eich mewnbwn arnynt. Os hoffech i faterion gael eu codi mewn cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, neu os hoffech ddod mwy ynghlwm mewn dylanwadu ar bolisïau ar faterion rhyngwladol yng Nghymru, e-bostiwch susieventrisfield@wcia.org.uk.

Diweddariadau

  • Fe wnaethom gyflwyno cwestiwn i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ynghylch addysg hinsawdd
  • Fe wnaethom ymateb i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol am yr argyfwng costau byw, a’i effaith ar y sector. Nid oedd llawer o amser i gael atebion, ond buasem yn hapus i rannu unrhyw beth rydym wedi ei golli gyda’r pwyllgor neu gydag arolygon ehangach o’r sector. Darllenwch ein hymateb.
  • Dros yr haf, fe wnaethom gwblhau adroddiad ar gyfer swyddfa Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn llunio argymhellion o ar draws sefydliadau a gan unigolion yn y sector rhyngwladol yng Nghymru, ar sut i gyflawni’n well Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang. Fe wnaethom gyflwyno’r rhain mewn gweledigaeth gryno o gorff cyhoeddus sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Y camau nesaf yw cyfieithu’r adnodd a’i rannu’n eang. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd eu harbenigedd. Darllenwch yr adroddiad llawn.
  • Ochr yn ochr â Maint Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Cymru Masnach Deg, fe wnaethom barhau i ofyn am newidiadau i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, i sicrhau ei fod yn cyflawni ymrwymiad Cymru i fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Roedd hyn yn cynnwys sgyrsiau gyda gweision sifil, cyflwyniadau i’r pwyllgor sy’n craffu ar y Bil, a chyfarfod gyda Jenny Rathbourne fel Cadeirydd y Pwyllgor. Darllenwch ein cyflwyniad.
  • Fe wnaethom agor sgyrsiau am y ffordd orau y gallai Cymru gymryd rhan yng Nghwpan y Byd mewn ffordd sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – mae’r gwaith hwn yn parhau
  • Fe wnaethom gynnal digwyddiad Internationalist Get Together yn y Deml Heddwch, gan archwilio rhywfaint o gwestiynau allweddol am ddinasyddiaeth a chynaliadwyedd byd-eang, a rhoi cyfle i’r sector ddod at ei gilydd. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant, a byddwn yn ceisio trefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol agos.
  • Fe wnaethom barhau i ymuno â thrafodaethau ar weithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol mewn cyrff cyhoeddus, syniadau ar gyfer y dyfodol a’r dangosyddion ar gyfer y nodau llesiant
  • Yn dilyn ymlaen o’r misoedd blaenorol, fe wnaethom gefnogi ymdrechion Cymdeithas Sifil ar draws y DU i:
  • Atal disodli’r Ddeddf Hawliau Dynol gyda Bil Hawliau llai effeithiol
  • Roi’r gorau i alltudio ffoaduriaid i Rwanda ac yn hytrach, rhoi croeso i’r rhai sy’n chwilio am noddfa
  • Gymryd camau brys i liniaru’r argyfwng hinsawdd

Lleisio eich barn

 

  • Mae gennym gyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn dod i fyny gyda gwahanol Weinidogion – tynnwch sylw at unrhyw faterion yr hoffech i ni eu codi o’r Sector Rhyngwladol
  • Bydd gan yr ymgyrch Cynnes y Gaeaf hwn gan Climate Cymru rywfaint o ofynion allweddol yn cael ei siapio nawr
  • Sut y gall Cymru gymryd rhan yng Nghwpan y Byd mewn ffordd sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang? Gadewch i ni wybod eich barn.

E-bostiwch susieventrisfield@wcia.org.uk os hoffech chi rannu neu drafod syniadau.