Mae Susie Ventris Field (Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) a Claire O’Shea (fel Cadeirydd WOAG) yn cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector – sef cyfle i’r trydydd sector yng Nghymru gyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru. Yma, rydym yn rhannu ychydig o’r newyddion diweddaraf ar weithgarwch diweddar, a rhywfaint o’r cyfleoedd sydd ar y gweill i chi roi mewnbwn. Os hoffech i unrhyw beth gael eu codi yng nghyfarfodydd TSPC neu os hoffech gymryd rhan agosach yn y gwaith o ddylanwadu ar bolisi ar faterion rhyngwladol yng Nghymru, anfonwch e-bost susieventrisfield@wcia.org.uk.
Diweddariadau
- Er bod y rownd gyntaf o geisiadau ar gyfer llwybr 1 Taith yn cau yr wythnos hon, rydym yn dal i geisio cryfhau rhai meysydd o’r rhaglen, fel eu bod yn hygyrch i bob person ifanc. Ochr yn ochr â chydweithwyr eraill o TSPC, mae gennym gyfarfod yn dod fyny gyda chyfarwyddwr Taith a Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori, Kirsty Williams.
- Rydym yn siomedig ynghylch y ffaith y cymeradwywyd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau fel y’i mynegwyd yn ein datganiad. Ynghyd â thros 250 o sefydliadau eraill, rydym wedi llofnodi adduned Refugee Action i ymladd y cyfreithiau gwrth-ffoaduriaid.
- Rydym wedi llofnodi ymateb y gymdeithas sifil Green Alliance i’r Bil Ynni a ryddhawyd ar 10 Mai hefyd
- Ynghyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Maint Cymru, fe wnaethom ysgrifennu at y Gweinidog Rebecca Evans a’r Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn am gyfrifoldeb byd-eang yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, ac rydym wedi gofyn am gyfarfod gyda’r gweinidog.
Cyfleoedd i fynegi eich barn
● Mae cyfleoedd i fwydo i mewn i’r fframwaith Cymwysterau Cymru newydd– ein ffocws yw sicrhau bod yr addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang sydd wedi’i gwreiddio yn y Cwricwlwm newydd i Gymru yn rhan annatod o’r Cymwysterau newydd hefyd.
● Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd i gyflawni’r Cynllun Sero Net. Mae Climate Cymru yn casglu barnau i’w rhannu mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda gweision sifil
● Cyfarfodydd TSPC sydd yn dod i fyny dros y 4 mis nesaf gyda:
- Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg– mae eitemau ar yr agenda yn debygol o gynnwys Taith, adfer addysg ar ôl COVID, a chyflwyno’r cwricwlwm
- Vaughan Gethin, Gweinidog yr Economi
- Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
- Mae grŵp trawsbleidiol newydd ar Heddwch a Chymodi yn cael ei lansio yr wythnos hon. Mae Academi Heddwch yn gweithredu fel yr Ysgrifenyddiaeth, a byddwn yn rhannu cyfleoedd i gymryd rhan cyn bo hir. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn lansio papur Polisi ar Addysg Heddwch yn y cyfarfod.