Diweddariad – Polisi Misol (Mehefin)

Mae Susie Ventris Field (Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) a Claire O’Shea (fel Cadeirydd WOAG) yn cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector – sef cyfle i’r trydydd sector yng Nghymru gyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru. Yma, rydym yn rhannu ychydig o’r newyddion diweddaraf ar weithgarwch diweddar, a rhywfaint o’r cyfleoedd sydd ar y gweill i chi roi mewnbwn. Os hoffech i unrhyw beth gael eu codi yng nghyfarfodydd TSPC neu os hoffech gymryd rhan agosach yn y gwaith o ddylanwadu ar bolisi ar faterion rhyngwladol yng Nghymru, anfonwch e-bost susieventrisfield@wcia.org.uk.

Diweddariadau

  • Rydym yn parhau i ymgyrchu ynghylch y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau fel y’i mynegwyd yn ein datganiad, a’r cynlluniau i allgludo pobl sy’n ceisio noddfa i Rwanda. Rydym wedi llofnodi adduned Refugee Action gyda mwy na 250 o sefydliadau eraill, i ymladd y cyfreithiau gwrth-ffoaduriaid.
  • Mae Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Heddwch a Chysoni wedi cael ei sefydlu, gydag Academi Heddwch (sydd yn cael ei letya gan WCIA) yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth. Byddwn yn rhannu cyfleoedd i gymryd rhan wrth iddynt godi.
  • Lansiwyd Papur Polisi ar Addysg Heddwch gennym gydag astudiaethau achos o Gymru a thu hwnt. Cyflwynwyd hwn i’r Grŵp Trawsbleidiol uchod.Cyfleoedd i roi barn
  • Mae Climate Cymru yn ymwneud â pholisïau bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’n casglu barn hefyd am ymgysylltu â’r cyhoedd a newid ymddygiad. Hefyd, lansiodd Climate Cymru fforwm polisi ar bolisi hinsawdd a natur yng Nghymru – dysgwch fwy a chymryd rhan yma
  • Mae ceisiadau ar gyfer Taith Llwybr 1 wedi cael eu cyflwyno, ac erbyn hyn, mae trafodaeth am drefnu Taith Llwybr 2 (yn weddol debyg i Erasmus+ 2, Key Action 2) – cysylltwch â ni os oes barn yr hoffech ei rhannu ar sut y dylid llunio’r rhaglen hon
  • Bydd cyfarfodydd TSPC yn cael eu cynnal dros y 4 mis nesaf gyda Gweinidogion – rhowch wybod i ni os oes materion pwysig yr hoffech i ni eu codi ar ran y sector rhyngwladol