Prosiectau grŵp

Mae prosiectau grŵp yn cynnig cyfle i dîm o bobl ifanc deithio dramor a chymryd rhan mewn profiad gwirfoddoli a diwylliannol, wedi’i deilwra’n bwrpasol i’w diddordebau penodol, eu cyllideb a’u hymrwymiad amser. Mae’r math hwn o brosiect yn ddelfrydol ar gyfer aelodau sefydliadau ieuenctid a chymunedol, yn ogystal â sefydliadau addysgol, sy’n ceisio dod o hyd i brosiectau sy’n gyson â’u diddordebau a’u gweithgareddau gartref, ac adeiladu partneriaethau dramor tra’n cael profiad anhygoel.

Pa fath o waith y gallaf ei ddisgwyl drwy gymryd rhan mewn prosiectau grŵp?

Gall y prosiect gael ffocws amgylcheddol, cymdeithasol neu gelfyddydol, a bydd yn cael ei ddatblygu’n benodol i ateb anghenion y gymuned leol.

Rydym yn annog trochi llawn yn y gymuned letyol, ac yn annog gwirfoddolwyr i ddysgu rhai o’r ieithoedd lleol, a bod yn barod i ddysgu am wahanol ddiwylliannau a ffyrdd o fyw, yn ogystal â rhannu agweddau ar eu bywyd a’u diwylliant eu hunain.