Archives

Diweddariad – Polisi Misol (Ebrill)

Mae Susie Ventris Field (Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) a Claire O’Shea (fel Cadeirydd WOAG) yn cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector – sef cyfle i’r trydydd sector yng Nghymru gyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru. Yma, rydym yn rhannu ychydig o’r newyddion diweddaraf ar weithgarwch diweddar, a rhywfaint o’r cyfleoedd sydd ar y gweill i chi roi mewnbwn. Os hoffech i unrhyw beth gael eu codi yng nghyfarfodydd TSPC neu os hoffech gymryd rhan agosach yn y gwaith o ddylanwadu ar bolisi ar faterion rhyngwladol yng Nghymru, anfonwch e-bost susieventrisfield@wcia.org.uk.

Diweddariadau

● Mae Apêl DEC yr Wcráin yn dal i fod ar agor, ac rydym wedi casglu mwy o wybodaeth am yr Wcráin ar ein gwefan

● Mae ceisiadau i gymryd rhan yn Taith (y rhaglen gyfnewid ryngwladol newydd gan Lywodraeth Cymru) ar agor erbyn hyn. Rydym wedi cyfrannu mewnbwn polisi wrth i hyn ddatblygu, a pharhau i weithio gyda chydweithwyr yn y sector ieuenctid a’r rheini sy’n cyflwyno’r rhaglen, i sicrhau ei bod yn darparu ar gyfer pobl ifanc Cymru. Fe wnaethom gyfrannu at lythyr gan CGGC (ar ran aelodau TSPC) at y Gweinidog Addysg, i dynnu sylw at rywfaint o’r meysydd sydd angen sylw pellach.

● Fe wnaethom gyfarfod gyda gwas sifil o Lywodraeth Cymru i drafod sut mae’r fenter Ysgolion Cymunedol yn gorgyffwrdd â dinasyddiaeth fyd-eang. Fe wnaethom barhau i bwyso am well mapio, fel y gall ysgolion ddod o hyd i adnoddau a sefydliadau’r trydydd sector yn haws i helpu i gyflwyno’r cwricwlwm – gobeithio y bydd rhywbeth yn digwydd yn fuan drwy ymgynghori.

● Ar lefel y DU, rydym yn parhau i ymuno ag ymgyrchoedd eraill sy’n tynnu sylw at y problemau gyda’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

● Rydym wedi datblygu papur drafft ar gyfer Swyddfa’r Comisiynwyr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar sut i fod yn genedl sy’n fwy cyfrifol yn fyd-eang – diolch i lawer o bobl ar draws y sector a gyfrannodd. Mae amser o hyd i ychwanegu eich barnau, felly rhowch wybod i ni os hoffech gael mynediad i’r ddogfen.

Cyfleoedd i fynegi eich barn

● Mae cyfleoedd i fwydo i mewn i’r fframwaith Cymwysterau Cymru newydd– ein ffocws yw sicrhau bod yr addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang sydd wedi’i gwreiddio yn y Cwricwlwm newydd i Gymru yn rhan annatod o’r Cymwysterau newydd hefyd.

● Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd i gyflawni’r Cynllun Sero Net. Mae Climate Cymru yn casglu barnau i’w rhannu mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda gweision sifil

● Cyfarfodydd TSPC sydd yn dod i fyny dros y 4 mis nesaf gyda:

  • Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg– mae eitemau ar yr agenda yn debygol o gynnwys Taith, adfer addysg ar ôl COVID, a chyflwyno’r cwricwlwm
  • Vaughan Gethin, Gweinidog yr Economi
  • Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
hi

Diweddariad – Polisi Misol (Mawrth)

Mae Susie Ventris Field (Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) a Claire O’Shea (fel Cadeirydd WOAG) yn cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector – sef cyfle i’r trydydd sector yng Nghymru gyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru. Yma, rydym yn rhannu ychydig o’r newyddion diweddaraf ar weithgarwch diweddar, a rhywfaint o’r cyfleoedd sydd ar y gweill i chi roi mewnbwn. Os hoffech i unrhyw beth gael eu codi yng nghyfarfodydd TSPC neu os hoffech gymryd rhan agosach yn y gwaith o ddylanwadu ar bolisi ar faterion rhyngwladol yng Nghymru, anfonwch e-bost.

Diweddariadau

  • Mae Apêl DEC ar gyfer yr Wcráin wedi cael ei lansio – gyda mwy o wybodaeth gyffredinol am yr Wcráin a sut y gall pobl helpu o Gymru – yn cael ei diweddaru’n rheolaidd
  • Rhoddodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru – dystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Allanol am y Strategaeth Ryngwladol – yna cyflwynodd dystiolaeth ychwanegol ar gais
  • Cyfrannodd at ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar sgiliau ehangach
  • Ymunodd â thrafodaethau ar y pryderon am Fil Hawliau’r DU (y bwriedir iddo ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol
  • Mae Taith (y rhaglen gyfnewid ryngwladol newydd gan Lywodraeth Cymru) wedi cael ei lansio. Rydym wedi cyfrannu mewnbwn polisi wrth i hyn ddatblygu, i sicrhau ei fod yn hygyrch i holl bobl ifanc Cymru ac wedi’i wreiddio mewn gwerthoedd.
  • Ar lefel y DU, rydym yn parhau i ymuno ag ymgyrchoedd eraill sy’n tynnu sylw at y problemau gyda’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau – mae Tŷ’r Arglwyddi wedi gwrthod nifer o’r darpariaethau gwaethaf, ond bydd hyn yn awr yn mynd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin. Yn hyn o beth, rydym yn hyrwyddo’r angen i Gymru fod yn Genedl Noddfa i bawb sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth.
  • Ymatebodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru i ddangosyddion yn mapio arolwg yn erbyn nodau llesiant (o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol)

Cyfleoedd i roi barn

  • Mae cyfleoedd i fwydo mewn i fframwaith Cymwysterau newydd Cymru – ein ffocws yw sicrhau bod yr addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang sydd wedi’i wreiddio yn y Cwricwlwm i Gymru yn  rhan annatod o’r Cymwysterau newydd hefyd
  • Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd, i gyflawni’r Cynllun Sero Net. Mae Climate Cymru yn casglu barnau i’w rhannu mewn cyfarfodydd rheolaidd â gweision sifil

Bydd cyfarfodydd TSPC yn cael eu cynnal dros y 4 mis nesaf gyda:

  • Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol – mae eitemau ar yr agenda yn debygol o gynnwys gwirfoddoli, argyfwng costau byw, cronfa codi’r gwastad, yr Wcráin a’r adferiad gwyrdd a chyfiawn ar ôl Covid.
  • Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg – mae eitemau ar yr agenda yn debygol o gynnwys Taith, adfer addysg ar ôl COVID, a chyflwyno’r cwricwlwm
  • Vaughan Gethin, Gweinidog yr Economi
  • Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

 

 

hi