Diweddariad – Polisi Misol (Ebrill)
Mae Susie Ventris Field (Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) a Claire O’Shea (fel Cadeirydd WOAG) yn cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector – sef cyfle i’r trydydd sector yng Nghymru gyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru. Yma, rydym yn rhannu ychydig o’r newyddion diweddaraf ar weithgarwch diweddar, a rhywfaint o’r cyfleoedd sydd ar y gweill i chi roi mewnbwn. Os hoffech i unrhyw beth gael eu codi yng nghyfarfodydd TSPC neu os hoffech gymryd rhan agosach yn y gwaith o ddylanwadu ar bolisi ar faterion rhyngwladol yng Nghymru, anfonwch e-bost susieventrisfield@wcia.org.uk.
Diweddariadau
● Mae Apêl DEC yr Wcráin yn dal i fod ar agor, ac rydym wedi casglu mwy o wybodaeth am yr Wcráin ar ein gwefan
● Mae ceisiadau i gymryd rhan yn Taith (y rhaglen gyfnewid ryngwladol newydd gan Lywodraeth Cymru) ar agor erbyn hyn. Rydym wedi cyfrannu mewnbwn polisi wrth i hyn ddatblygu, a pharhau i weithio gyda chydweithwyr yn y sector ieuenctid a’r rheini sy’n cyflwyno’r rhaglen, i sicrhau ei bod yn darparu ar gyfer pobl ifanc Cymru. Fe wnaethom gyfrannu at lythyr gan CGGC (ar ran aelodau TSPC) at y Gweinidog Addysg, i dynnu sylw at rywfaint o’r meysydd sydd angen sylw pellach.
● Fe wnaethom gyfarfod gyda gwas sifil o Lywodraeth Cymru i drafod sut mae’r fenter Ysgolion Cymunedol yn gorgyffwrdd â dinasyddiaeth fyd-eang. Fe wnaethom barhau i bwyso am well mapio, fel y gall ysgolion ddod o hyd i adnoddau a sefydliadau’r trydydd sector yn haws i helpu i gyflwyno’r cwricwlwm – gobeithio y bydd rhywbeth yn digwydd yn fuan drwy ymgynghori.
● Ar lefel y DU, rydym yn parhau i ymuno ag ymgyrchoedd eraill sy’n tynnu sylw at y problemau gyda’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
● Rydym wedi datblygu papur drafft ar gyfer Swyddfa’r Comisiynwyr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar sut i fod yn genedl sy’n fwy cyfrifol yn fyd-eang – diolch i lawer o bobl ar draws y sector a gyfrannodd. Mae amser o hyd i ychwanegu eich barnau, felly rhowch wybod i ni os hoffech gael mynediad i’r ddogfen.
Cyfleoedd i fynegi eich barn
● Mae cyfleoedd i fwydo i mewn i’r fframwaith Cymwysterau Cymru newydd– ein ffocws yw sicrhau bod yr addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang sydd wedi’i gwreiddio yn y Cwricwlwm newydd i Gymru yn rhan annatod o’r Cymwysterau newydd hefyd.
● Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd i gyflawni’r Cynllun Sero Net. Mae Climate Cymru yn casglu barnau i’w rhannu mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda gweision sifil
● Cyfarfodydd TSPC sydd yn dod i fyny dros y 4 mis nesaf gyda:
- Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg– mae eitemau ar yr agenda yn debygol o gynnwys Taith, adfer addysg ar ôl COVID, a chyflwyno’r cwricwlwm
- Vaughan Gethin, Gweinidog yr Economi
- Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd