“Yn ystod y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch?“
Rhwng 2014-18, bu Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru – gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri – yn cydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol i ddatgelu hanes “treftadaeth heddwch” Cymru; pobl gyffredin sydd wedi gwneud pethau anghyffredin i adeiladu byd gwell. Dyma drosolwg o rai o’r prosiectau a’r llwyddiannau allweddol a arweiniwyd gan wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn ystod y cyfnod i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Mawr.
- Gweld / lawrlwytho Adroddiad llawn Cofnod o Brosiect Cymru dros Heddwch, Tachwedd 2019 (gan Craig Owen, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru).
- Gweld / lawrlwytho Adroddiad Gwerthuso Allanol Cymru dros Heddwch, Tachwedd 2019 (gan Dr Jenny Kidd a Carrie Westwater, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd)
- Gweld / lawrlwytho Adroddiad Gwerthuso Canol Tymor, Gwanwyn 2017 (gan Brifysgol Caerdydd) ac addasiadau i raglen Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Gorffennaf 2017.