Arddangosfa Menywod, Rhyfel a Heddwch yn Llyfrgell Canolfan Ddinesig Abertawe

Written on 6-09-2018 by Craig Owen

Mae’n bleser gan WCIA gael y cyfle i gyflwyno arddangosfa ffotograffig wefreiddiol dros ben, o fri rhyngwladol, i gynulleidfaoedd newydd yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, fel rhan o’r rhaglen ddigwyddiadau ‘Now the Hero / Now yr Arwr’ sy’n rhedeg trwy gydol mis Medi, a gomisiynwyd gan 14-18NOW i ddathlu can mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Lee Karen Stow, y ffoto-newyddiadurwraig, wedi treulio degawd yn adrodd straeon personol menywod mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, a menywod sy’n ymgyrchu dros heddwch, a hynny o Sierra Leone i Eryri, a bellach yn Abertawe. Mae ei phortreadau’n rymus a’i straeon yn gyfareddol.

Mae’r arddangosfa Menywod, Rhyfel a Heddwch yn Abertawe yn adrodd stori gryf am Gymru, ac mae tua hanner y portreadau a’r hanesion yn cael eu rhoi gan fenywod o bob cwr o Gymru – o actifyddion heddwch gydol oes, i filwyr ar wasanaeth a ffoaduriaid.

Yn 2017 gofynnodd Cymru dros Heddwch i mi dynnu lluniau o rai o’r menywod niferus yng Nghymru sydd wedi profi rhyfel a gwrthdaro neu wedi teimlo’u heffeithiau, ynghyd â nifer fach o’r menywod sydd wedi ymgyrchu ac sy’n dal i weithio a gobeithio am heddwch. Ychydig enghreifftiau’n unig fydd y wynebau ar y muriau fan hyn o’r unigolion niferus y mae eu straeon eto i’w hadrodd a’u rhannu. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn dechrau sgwrs am bresenoldeb hanesyddol a pharhaus rhyfel yn ein bywydau, a’r ymgais barhaus i geisio heddwch.” Lee Karen Stow

Gellir gweld ffotograffau trawiadol Lee a hanesion sy’n codi calon yn Llyfrgell Canolfan Ddinesig Abertawe rhwng y 4ydd o Fedi a’r 4ydd o Hydref 2018.

 

Download Event Flyer (PDF)

Edrychwch ar yr Albwm Flickr o’r Arddangosfa sy’n cael ei adeiladu

https://flic.kr/s/aHskERpcSe 

Darganfyddwch am y Menywod o Gymru sydd yn Ymgyrchu dros Heddwch Heddiw

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *