Rhyngwladoldeb Cymru – Treftadaeth ar Waith
Mae gan Gymru hanes hir a balch o weithredu rhyngwladolaidd ar lawr gwlad dros gyfiawnder cymdeithasol, heddwch a chydweithrediad gyda diwylliannau a phobl ledled y byd.
Mae ein harddangosfa a’n casgliadau ‘Cymru dros Heddwch’ yn archwilio’r dreftadaeth yma drwy 7 thema allweddol, a phob un yn cynrychioli gwahanol gymhellion a gweithredoedd ar gyfer adeiladu heddwch sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o ryngwladolwyr o Gymru – ac yn parhau i wneud hynny i’r dyfodol.