Lleisiau’r Ddeiseb: Straeon Heddwch Menywod

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach, wrth i’w galwad am heddwch atseinio drwy’r canrifoedd?

Gweld / Trawsgrifio’r ddeiseb

Wrth i brosiect ‘Hawlio Heddwch’ datblygu yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant, rydym yn falch nawr o allu rhannu tudalennau o’r ddeiseb sydd wedi’u digideiddio. Mae’n bosib eu gweld drwy gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru – sgroliwch i lawr i ‘Mynediad at y Ddeiseb Heddwch’ lle, ar hyn o bryd, gallwch ddewis Blychau 1 i 26. Mae trawsgrifio yn digwydd drwy’r Platfform Torfoli, lle gall gwirfoddolwyr gofrestru a gweithio trwy gymaint o dudalennau ag sy’n bosib iddynt.

Chwilio’r ddeiseb

Ar ôl cwblhau’r trawsgrifio, bydd modd chwilio’r ddeiseb gyfan (yn ôl enw, lleoliad, neu eiriau allweddol) – bydd dolen we wedi’i diweddaru ar gael pan fydd hwn ar gael. Yn y cyfamser, i ddefnyddwyr sy’n ceisio dod o hyd i enwau neu leoliadau penodol, gallwch chwilio catalog y ddeiseb trwy roi lleoliad yn y blwch ‘search’ ar ochr chwith y sgrin (ee teipiwch ‘Nannerch’, a bydd y catalog yn rhestru’r holl daflenni deiseb sydd wedi’u catalogio yn ôl y lleoliad hwn).

Allwch chi helpu drwy rannu straeon heddwch menywod?

Os hoffech, lawr lwythwch dempled Microsoft Word gyda phwyntiau trafod i’ch helpu i roi strwythur i’ch stori.

Rydym yn apelio ar gyfranwyr ledled Cymru i rannu’r ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid yn unig ‘y mawr a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch. Allwch chi ein helpu?

Gellir cyfrannu ‘Hanesion Cudd‘ ym mha bynnag ffordd sydd mwyaf hwylus i chi – drwy e-bost, dogfen Word, fideo byr neu recordiad sain (gellir creu’r rhain gan ddefnyddio apiau am ddim ar y rhan fwyaf o ffonau symudol).

  • Os hoffech, lawr lwythwch dempled Microsoft Word gyda phwyntiau trafod i’ch helpu i roi strwythur i’ch stori.

Os ydych yn hapus i rannu eich straeon fel rhan o brosiect y canmlwyddiant, gallwch eu danfon atom trwy e-bost i post@academiheddwch.cymru. Gellir danfon ffeiliau mawr fel fideos (i’r e-bost uchod) gan ddefnyddio WeTransfer (dim ond cofrestru ar gyfer cyfrif am ddim bydd angen arnoch i wneud hyn.)

Esiamplau – Straeon Heddwch Menywod

Dyma rhai o’r straeon sydd eisoes wedi’u casglu fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant: