Ein hymateb i Strategaeth Ryngwladol gyntaf Cymru
Ar ddydd Mawrth 14 Ionawr, lansiodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Strategaeth Ryngwladol gyntaf Cymru.
Nod y strategaeth yw hyrwyddo’r wlad fel cenedl sy’n edrych tuag allan yn barod i weithio a masnachu gyda gweddill y byd.
Mae ein Prif Swyddog Gweithredol Susie Ventris-Field wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol:
“Yn Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, rydym yn falch o weld ymrwymiad i Gymru gyfrifol ar lefel fyd-eang fel un o dair prif flaenoriaeth y strategaeth.
“Cryfder y strategaeth newydd yw ei negeseuon clir ynglŷn â Chymru fel cenedl groesawgar i bobl o bob cefndir, gwlad a diwylliant, gan gynnwys y rheiny sy’n ceisio noddfa.
“Mae’r ymrwymiad i Nodau Datblygiad Cynaliadwy y CU a hawliau dynol yn y gwerthoedd yn bwysig a gallwn weld hyn yn cael ei adlewyrchu mewn rhannau eraill o’r strategaeth. Er enghraifft, mewn perthynas â hyrwyddo Cymru fel Cenedl Masnach Deg a Chenedl Noddfa.
Calonogol hefyd yw gweld y cysylltiadau rhwng y Cwricwlwm newydd, arloesol i Gymru a darpariaeth y strategaeth hon.
“Y camau nesaf i ni fydd craffu’r strategaeth yn fwy manwl gyda’n partneriaid yn y sector i sicrhau bod yr ymrwymiad i gyfrifoldeb ar lefel fyd-eang yn cael ei adlewyrchu drwy’r strategaeth, a byddwn hefyd yn talu sylw agos at weithredu’r strategaeth hon.
“Er enghraifft, hoffwn weld ffocws ar y tri diwydiant a ddewiswyd yn cefnogi ein cyfrifoldebau i weddill y byd, er enghraifft, o ran lleihau ein hallyriadau, dileu arferion Llafur gwael o’n cadwyni cyflenwi, ac ymrwymiad i gydweithredu a heddwch.
“Yn ogystal, byddem eisiau deall mewn rhagor o fanylder sut fydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar gryfderau cyfredol y rhaglen Cymru Affrica”
Ym mis Rhagfyr y llynedd, buom yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector rhyngwladol i roi adborth am y drafft.
Gallwch ddarllen ein hymateb ar y cyd yma