“Heddwch yw’r ateb bob tro” – Disgyblion yn rhannu taith Heddwch yng nghynadledd flynyddol
Gan Bethan Marsh ac Emma Proux
Ar ddydd Mercher 6 Tachwedd, daeth disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru ynghyd ym mhrif ddinas y wlad i rannu eu teithiau ar ddod yn Ysgol Heddwch.
Croesawodd Craig Owen, Pennaeth Cymru Dros Heddwch, y disgyblion i’r gynhadledd yn Nhŷ Hywel, a rhannu gwybodaeth gefndirol ar dreftadaeth heddwch yng Nghymru ac ar draws y byd.
Mae’r Cynllun Ysgolion Heddwch Cymru yn galluogi ysgolion i ddatblygu heddwch fel thema drawsgwricwlaidd a dull ysgol gyfan, gan gynhyrchu cyfleoedd a mentrau dysgu cyffrous.
Yn ystod sesiwn y bore, cafodd y disgyblion fynd ar daith ‘tu cefn i’r llen’ o amgylch adeilad y Senedd, cyn rhannu eu profiadau ar sut mae’r cynllun wedi effeithio’n gadarnhaol ar eu dysgu a’u profiadau.
Yna, roedd cyfle i’r disgyblion gwestiynu panel o Aelodau o’r Cynulliad yn cynnwys John Griffiths AC, Mark Isherwood AC, a Delyth Jewell AC, ar faterion cyfoes megis newid hinsawdd, cymunedau cynhwysol a ffoaduriaid.
Daeth Kirsty Williams AC ac Ysgrifennydd Addysg y Cabinet i gwrdd â’r disgyblion a dysgu mwy am y syniadau y tu cefn i’w harddangosfeydd Ysgol Heddwch.
Dywedodd: “Mae plant yn cael eu geni’n ddysgwyr ac rydym eisiau sicrhau bod yr awch i ddysgu yn parhau drwy gydol eu bywydau. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi gobaith mawr i mi. Mae’n dangos pa mor bwysig yw addysg a beth mae’n gallu ei wneud. Rwyf eisiau gweld yr holl themâu sydd wedi eu trafod heddiw yn cael eu codi yn ein dosbarthiadau.”
Daeth y gynhadledd i ben gydag aelodau o Bwyllgor Heddwch Ysgol Bro Myrddin yn cyflwyno eu teithiau at gyflawni statws Ysgol Heddwch lefel 1.
Dywedodd un aelod o’r pwyllgor: “Mae mwy i heddwch na’r hyn rydym yn ei glywed yn ein gwersi hanes. Ar ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol 2019, fe godon ni’r faner yng Nghaerfyrddin a sefyll fel pobl ifanc ynghyd â miliynau o bobl ifanc eraill ledled y byd yn enw heddwch. Heddwch yw’r ateb bob tro.”
Ariennir y cynllun drwy gefnogaeth hael Cronfa Goffa Sallie Davies, a hoffem ddiolch i’r gronfa am eu cyfraniadau.
Dywedodd Jane Harries, Cydlynydd Addysg Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), a drefnodd y digwyddiad: “Roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn cymryd rhan, ac roedd yn wych gweld beth maent wedi ei gyflawni yn ystod eu taith at ddod yn Ysgol Heddwch.”
Gwyliwch y fideo YMA
Mae llawer o lluniau o’r diwrnod ar gael YMA