Mae’r Ganolfan a Chynghrair Dysgu Byd-eang Cymru (WAGL) yn croesawu cwricwlwm newydd i Gymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â gweithwyr proffesiynol ym myd addysg a gofal plant ac arbenigwyr eraill er mwyn datblygu dull gweithredu newydd i ymdrin â’r cwricwlwm. Maen nhw wedi datblygu canllawiau a fydd yn helpu ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir i greu cwricwlwm newydd i’w dysgwyr.
Rydym ni yn Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi ymateb i’r cwricwlwm newydd
Ar y cyfan, rydym yn cefnogi cyfeiriad y cwricwlwm newydd. Rydym yn falch i ddarllen nifer o bwyntiau, yn cynnwys:
- dull trawsgwricwlaidd wedi’i wreiddio mewn sgiliau a phrofiadau
- yr amlygrwydd a roddir i greu dinasyddion gwybodus Cymru a’r byd
- y persbectif rhyngwladol trawsgwricwlaidd
Er hyn, mae rhai eglurhad y byddem yn eu hargymell, gan gynnwys fframwaith addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, yn rhan annatod o’r cwricwlwm.
Darllenwch y llythyr ac ymateb llawn WAGL yma