Cyfeillion y Deml Heddwch

Darllenwch‘ A New Mecca: The Story behind Wales’ Temple of Peace‘, gan Dr Emma West (Ymddiriedolwr Treftadaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru).

Mae Teml Heddwch ac Iechyd Cymru yn heneb gyhoeddus, a roddwyd i’r genedl ac i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru yn 1938 gan yr Arglwydd Davies Llandinam, ar ran y genhedlaeth a oroesodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Prydles a pherchnogaeth ffurfiol yr adeilad yn darparu gwarchodaeth, lle ar gyfer swyddfeydd a chynhyrchu incwm i’r naill gorff ar ôl y llall sy’n arwain gwaith ar Heddwch ac Iechyd – heddiw, y Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Fodd bynnag, mae gan Deml Heddwch Cymru, a’r Ardd Heddwch Genedlaethol gyfagos, le pwysig yng nghalonnau nifer o unigolion a sefydliadau ledled Cymru – a’r cyfan yn rhannu diddordeb personol cyffredin yng ngorffennol, presennol a dyfodol y Deml.

Cymuned Cyfeillion y Deml

Mae cymuned ‘Cyfeillion y Deml’ yn dod â sefydliadau ac unigolion, tu hwnt i breswylwyr yr adeilad, ynghyd i gydweithio, cydlynu syniadau a digwyddiadau, a chael dweud eu barn yn natblygiad y Deml a’i rôl mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Bod yn fforwm anffurfiol ond effeithiol yw bwriad Cyfeillion y Deml Heddwch, gan gasglu egni a gwybodaeth unigolion a sefydliadau sy’n rhan ohono: yn annibynnol, ond â chefnogaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Academi heddwch, Prifysgol Caerdydd ac eraill, er mwyn:

  • Hwyluso cyswllt a chydweithrediad rhwng cymunedau / rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y Deml a Gardd Heddwch, yn cynnwys fforwm ar-lein a rhestr e-bost ar gyfer gwybodaeth / newyddion diweddaraf.
  • Hwyluso digwyddiadau ar y cyd a phrosiectau gwirfoddoli ar agweddau o dreftadaeth y Deml sy’n bwysig i grwpiau cymunedol.
  • Monitro cynnal a chadw’r Ardd Heddwch, trefnu ‘gwenyn gardd’ a chodi sbwriel gwirfoddol, a chodi pryderon gwaith tir neu bryderon eraill gyda thîm Ystad Prifysgol Caerdydd.
  • Ystyried a chymeradwyo ceisiadau ar gyfer henebion a phlanhigion, newydd / wedi eu hadnewyddu ar gyfer Gardd Heddwch Genedlaethol Cymru, yn unol â’i bwrpas cyhoeddus.
  • Cysylltu â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Phrifysgol Caerdydd ynghylch unrhyw ddatblygiad i adeilad arfaethedig, gan sicrhau bod barn rhanddeiliaid ehangach y Deml yn cael ei chlywed a’i hystyried mewn prosesau cynllunio ac adnewyddu.
  • Galluogi cymunedau a gwirfoddolwyr lleol i gymryd rhan mewn prosiectau treftadaeth a mentrau ymchwil.

Sut allaf/allwn gymryd rhan?

Cofrestrwch yma, neu e-bostiwch walesforpeace@wcia.org.uk (nodwch eich: enw a manylion cyswllt, sefydliad (os yw’n berthnasol), eich diddordeb / cyswllt â’r Deml a Gardd Heddwch yn fyr, ac unrhyw agweddau penodol o waith y Cyfeillion yr hoffech fod yn rhan ohonynt).

Rhagwelir y bydd Cyfeillion y Deml yn cynnal (yn fras, trafodaethau) unwaith y misar-lein neu wyneb yn wyneb, am awr ddiwedd y prynhawn / yn gynnar gyda’r nos fel arfer; a thros y Gwanwyn i’r Hydref, ‘picnic Gardd Heddwch’ a chyfarfodydd anffurfiol a phleserus eraill.

Friends celebrate the 30th Anniversary of the Peace Garden’s opening, in Autumn 2018.

Pwy yw ‘Cyfeillion y Deml’?

Mae ystod eang o sefydliadau a grwpiau cymunedol yn parhau â diddordeb gweithredol yn y Deml a’r Ardd Heddwch. Nid yw’r enwau sydd ar y rhestr hon (neu ddim) yn adlewyrchu nac awgrymu unrhyw gytundebau neu gyfrifoldebau ffurfiol – ond yn hytrach hanes o gymryd rhan weithredol yn y blynyddoedd diwethaf yn unig. Academi Heddwch 

  • Amnest Rhyngwladol Cymru
  • Partneriaid coffa BAME drwy Race Council Cymru
  • Gwirfoddolwyr Canolfan Addysg Parc Bute
  • CND Cymru (a changhennau CND lleol)
  • Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
  • Cymdeithas y Cymod
  • Dolen Cymru Lesotho
  • Pwyllgor Gŵyl Durga Puja Cymru
  • Ymddiriedolaeth Goffa David Davies, Prifysgol Aberystwyth
  • Teulu Davies Llandinam
  • Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Corfforaeth Cydsefyll Ewropeaidd Cymru
  • Ymddiriedolaeth Neuadd Gregynog
  • Ymddiriedolaeth Cofio’r Holocost Cymru
  • Hwb Cymru Affrica
  • Ymddiriedolaeth Cofio’r Brigadau Rhyngwladol Cymru 
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Llywydd, Prif Weinidog, MALD a’r Senedd
  • Oasis
  • Awyr Agored Caerdydd – Ffrindiau, gwirfoddolwyr a grwpiau
  • Oxfam Cymru
  • Rhwydwaith Ysgolion Heddwch Cymru
  • Crynwyr / Cymdeithas Cyfeillion Cymru
  • Bwrdd Cymru Cofio Srebrenica
  • Rotari Rhyngwladol Cangen Caerdydd
  • Y Lleng Brydeinig Frenhinol (Cymru)
  • Gwirfoddolwyr Cymdeithas Garddwriaeth Frenhinol (RHS)
  • Prosiect newid hinsawdd maint Cymru
  • Soroptomists Rhyngwladol Cymru
  • Adran Hanes Prifysgol Abertawe
  • UNA Caerdydd
  • Cyn aelodau gwirfoddoli rhyngwladol cyfnewid UNA 
  • Cymuned Armenaidd Cymru 
  • Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
  • Partneriaeth Canmlwyddiant Apêl Heddwch y Merched
  • Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru