A ydych yn ymroddedig dros heddwch ac a hoffech chi wneud gwahaniaeth? A hoffech chi dreulio blwyddyn o Fedi 2019 ymlaen ar leoliad cyflogedig a fyddai yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau, gwybodaeth ac ymroddiad dros heddwch tra – ar yr un pryd – yn cefnogi sefydliad yn eu gwaith dros fyd mwy cyfiawn, heddychlon a chynaliadwy?
Os felly, beth am ymgeisio i fod yn Weithiwr Heddwch? Mae’r cynllun yn agored ar gyfer ymgeiswyr nawr, tan y dyddiad cau, sef 2 Mai. Caiff Gweithwyr Heddwch eu hariannu am flwyddyn gan Quaker Peace and Social Witness. Cânt eu cefnogi gan sefydliad er mwyn datblygu prosiect heddwch neu drawsnewid gwrthdaro y bydd ganddynt gryn dipyn o berchnogaeth drosto. Mae manylion pellach am y cynllun yma: www.quaker.org.uk/our-work/peace/peaceworkers. Cewch wybodaeth fanylach a ffurflen gais yma: www.quaker.org.uk/job-opportunities/jobs. A wnewch chi ystyried y cyfle hwn eich hun, a hefyd ei hyrwyddo yn helaeth ymhlith rhwydweithiau rydych yn gysylltiedig â nhw.
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) wedi derbyn gwahoddiad i ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun, felly mae hi’n bosibl y gallai fod lleoliad yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Pe byddai hyn yn digwydd, prif amcan y Gweithiwr Heddwch arbennig hwnnw fyddai parhau i ddatblygu Cynllun Ysgolion Heddwch a Gwobrau Heddychwyr Ifanc y WCIA. Y mae’r rhain yn rhan o waddol y prosiect Cymru dros Heddwch a edrychodd ar dreftadaeth heddwch Cymru ers y Rhyfel Byd Cyntaf, a sut mae’n berthnasol i wrthdaro a heddwch yn y byd sydd ohoni. Gall Ysgolion Heddwch fod yn ysgolion cynradd neu uwchradd lle mae heddwch yn ganolog i fywyd pob dydd disgyblion, lle mae cyfleoedd yn rhan o’r cwricwlwm i ddysgu am a myfyrio dros hanesion am heddychwyr o Gymru a’r tu hwnt; a lle caiff disgyblion eu hannog i fod yn ddinasyddion beirniadol a gweithredol yng Nghymru a’r byd.
Peidiwch â phetruso! Ymgeisiwch heddiw ac / neu rhannwch y newyddion gydag eraill yn eich rhwydweithiau!