Stori Llyfr y Cofio Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf

Lawrlwythwch PDF i'w Brintio

Adeiladwyd Teml Heddwch ac Iechyd Cymru, sef cartref Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a’r prosiect ‘ Cymru dros Heddwch ‘ a ariannir gan CDL fel cofeb y genedl i’r rheiny a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf– cofeb a fyddai’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddysgu o wrthdaro’r gorffennol, i siartio rôl Cymru yn y byd, ac i weithio tuag at heddwch.

100 mlynedd yn ôl i’r penwythnos hwn, dywedodd y byd ‘ Byth Eto ‘ i wrthdaro, wrth i Glychau’r Cadoediad ganu ar 4 blynedd a oedd wedi dileu cenhedlaeth. Cenedl mewn poen a galar sy’n ymbaratoi i ailadeiladu, ac adeiladu byd gwell.

CaernarfonPoppies4-1200x900 Red White WfP Poppies

100 mlynedd yn ddiweddarach, mae pabïau coch y cofio milwrol –yn ogystal â’r pabïau gwyn dros heddwch, y pabïau du dros gymunedau BME, a’r pabiau porffor dros anifeiliaid a gollwyd mewn rhyfel –i gyd yn nodi’r funud o dawelwch am 11am ar 11.11, pabïau i bobl o bob persbectif.

Ond ar #WW100, mae ein pabïau o bob lliw yn cofio’r rheiny sydd wedi marw a chael eu gadael ar ôl hefyd gan ganrif o wrthdaro ers hynny – yr Ail Ryfel Byd, Sbaen, Korea, y Rhyfeloedd Trefedigaethol, y Rhyfel Oer, Fietnam, Falklands, Gwlff, Balcanau, Rhyfel ar Derfysgaeth, Affganistan, Irac, Libya, Syria … Beth mae’r byd wedi’i ddysgu mewn gwirionedd o Gofio? I ogoneddu rhyfel … neu i’w atal?

Davies Family of Llandinam

Y Teulu Davies o Landinam

Nid yw agweddau gwahanol tuag at wynebu gwrthdaro yn newydd. Drwy’r Rhyfel Byd Cyntaf, byddai’r teulu Davies o Landinam ym Mhowys wedi cael dadleuon wrth y bwrdd cinio a oedd yn cynrychioli’r trawsdoriad o gymdeithas. Wyrion y diwydiannwr o Gymro, David Davies:

  • Roedd David Davies (Jnr) (yr Arglwydd Davies o Landinam yn ddiweddarach) yn filwr yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac yn Ysgrifennydd Seneddol preifat i’r arweinydd rhyfel, David Lloyd George. Ond cafodd ei arswydo gan y gyflafan a welodd ar y Ffrynt, ac fe neilltuodd ei fywyd i fynd ar drywydd heddwch –gan gynnwys sefydlu’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol gyntaf yn y byd yn Aberystwyth (dathlu eu canmlwyddiant yn 2019), a Theml Heddwch ac Iechyd Cymru (dathlu #Teml80, ein 80fed pen-blwydd, yn Tach 2018).
  • Ymunodd ei gefnder Edward Lloyd Jones yn gyndyn â rhyfel a ystyriai’n anghyfiawn; ond cafodd ei ladd yn Gallipoli, yn ddim ond 27 mlwydd oed.
  • Roedd y cefnder George M Ll Davies yn Wrthwynebydd Cydwybodol, a gafodd ei garcharu yn Wormwood Scrubs am wrthod meddu arfau– ond ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Brifysgol Cymru, a daeth yn un o adeiladwyr heddwch enwocaf Cymru – oedd yn cael ei adnabod fel ‘Pererin Heddwch’.
  • O gael eu brawychu gan y rhyfel, ymunodd Gwendoline a Margaret (Daisy) Davies, â’r Iwmoniaeth Nyrsio Cymorth Cyntaf i redeg ffreutur yn Troyes, Ffrainc, lle cefnogon nhw filwyr oedd yn mynd i Flaen y Gad ac oddi yno. Ar ôl cael eu distrywio gan farwolaeth eu cefnder, cefnogasant George fel Gwrthwynebydd Cydwybodol. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, fe wnaethon nhw sefydlu Gwasg Gregynog, cefnogi’r gwaith o greu Llyfr y Cofio, a helpu i sefydlu WEAC (Pwyllgor Cynghori Cymru ar Addysg) a gynhyrchodd y Cwricwlwm Addysg Heddwch cyntaf yn y byd, a ddaeth yn lasbrint i UNESCO.

Book of Remembrance Cover

Creu Llyfr y Cofio

Ar ddechrau’r 1920au, wrth i deuluoedd ymgeledd gyda sgîl-effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf a’u colled, codwyd cofebau ar draws Cymru. Cynigiwyd adeiladu Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ar gyfer gerddi Alexandra ym Mharc Cathays.  Roedd y 35-40,000 o’r Cymry a fu farw i’w hysgythru mewn Llyfr hardd – Llyfr y Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru –a fyddai’n dod yn waith celf, yn drysor cenedlaethol, ac yn fan pererin.

Screenshot 2018-11-10 at 17.59.26 Screenshot 2018-11-10 at 17.59.43

Mae’r llyfr yn waith y caligraffwr byd-enwog Graily Hewitt, sy’n gweithio’n agos yn ol pob son gyda’r chwiorydd Davies a’u hartistiaid Gwasg Gregynog. Gwnaed ymdrech genedlaethol fawr i gasglu enwau’r rheiny a fu farw; ac fe weithiodd tîm o ferched ym Midhurst, Sussex dros sawl blwyddyn i gwblhau’r llyfr.

Cafodd y chwiorydd Davies a Gwasg Gregynog genhadaeth i greu llyfrau o gelfyddyd uchel a phrydferthwch. Cawsant eu rhwymo mewn Lledr o Foroco, gydag Inc Indiaidd a Deilen Aur ar dudalennau o Femrwn. Roedd y technegau addurno cain yn adfywiad o sgiliau Canoloesol.

Edrychwch ar yr Albwm Flickr o Lyfr y Cofio yn y Deml Heddwch

Screenshot 2018-11-10 at 18.11.30 1917 Caernarfon RfP Book of Remembrance Hedd Wyn - Ellis Evans closeup 1

“this Book of Souls, reposed upon a stone of French Marble, encased in Belgian Bronze, illuminated individually, painstakingly by hand in Indian Ink and the finest Gold Leaf upon handcrafted Vellum… bound in a volume of Moroccan Leather, entombed in a sanctuary of Portland Stone and Greek collonades. It seemed as if the whole Empire were as one in the creation of this memorial to those whose loss must live forever.” 

1928_Welsh_National_War_Memorial Screenshot 2018-11-10 at 18.16.05

Cwblhawyd y 1,205 tudalen o 35,000 o enwau ym mis Mawrth 1928; a llofnodwyd y Llyfr, ar 12 Mehefin 1928, gan Edward Tywysog Cymru – y Brenin Edward VIII yn y dyfodol – ar dudalen farchnata gydag ‘ Er Cof ‘ – In Memory’ arni.  Cafodd ei ddadorchuddio’n ffurfiol i’r cyhoedd ar 11.11, 1928 – sef 10fed pen-blwydd y Cadoediad – wrth agor Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Caerdydd. Am y ddegawd gyntaf, cadwyd y llyfr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ond roedd ei greu wedi ysbrydoli cenhadaeth ehangach.

Roedd mudiadau adeiladu heddwch Cymru wedi bod yn arbennig o weithgar drwy’r 1920au ar y llwyfan rhyngwladol. Roedd gan yr Arglwydd David Davies weledigaeth y dylai Cymru arwain y byd wrth wireddu heddwch, wedi’i wreiddio mewn brics a morter drwy adeiladu’r ‘Deml Heddwch’ gyntaf, gyda’r gobaith o arwain at gyfres o ‘Demlau Heddwch’ ar draws y byd.

1930 Temple proposed cross-sections

Allan o Ryfel – Teml Heddwch

Gwahoddwyd penseiri blaenllaw i ddylunio adeilad a fyddai’n cadw Llyfr y Cofio, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol-ac ym 1929, comisiynwyd y pensaer o Gaerdydd, Percy Thomas, i ddylunio Teml Heddwch Cymru, ar dir a roddwyd gan Gorfforaeth Caerdydd. Ar ôl dechrau araf yn ystod y Dirwasgiad Mawr, ym 1934, rhoddodd yr Arglwydd Davies £60,000 o’i arian ei hun i gychwyn y prosiect.

1937 Foundation stone ceremony 1938 Temple from Cathays Park.jpg

Ym mis Ebrill 1937, gosodwyd y garreg sylfaen mewn seremoni fawr ym Mharc Cathays, Caerdydd, gan yr Arglwydd Halifax – un o brif ‘ wleidyddion heddwch ‘ y cyfnod.  Ond roedd diwedd y 1930au yn gyfnod cythryblus; roedd y ‘gwaith adfer heddwch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a lesteiriodd yr Almaen, wedi arwian at Hitler yn dod i bŵer– a byddai’r Arglwydd Halifax, a oedd wedi gweithio’n galed i osgoi rhyfel ar bob cost, yn mynd lawr mewn hanes fel ‘dyhuddwr’ (er mai barn annheg a syml yw hon efallai, ar ei ymdrechion i adeiladu heddwch).  Ond hyd yn oed wrth i’r Deml gael ei hadeiladu, roedd bagiau tywod a llochesi bomiau yn cael eu hadeiladu ar nail ochr y strydoedd.

“A New Mecca – the Opening of Wales’ Temple of Peace and Health” – Blog gan Dr. Emma West ar gyfer yr Ŵyl ‘Being Human’.

Screenshot 2018-11-10 at 18.54.14 1938 Crowds for Opening of Temple of Peace

Ym mis Tach 1938, agorwyd y Deml Heddwch gan ‘ Mam Cymru ‘ Minnie James o Ddowlais, Merthyr Tudful, oedd wedi colli 3 mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf – yn cynrychioli mamau Cymru oedd wedi profi profedigaeth.  Cafodd gwmni cynrychiolwyr mamau o bob rhan o Brydain a’r Ymerodraeth, a ddynodwyd drwy’r Lleng Brydeinig ac ymgyrchoedd yn y Wasg leol. Roedd y Deml yn ceisio hyrwyddo cydraddoldeb o’r cychwyn cyntaf – er bod y seremoni agoriadol yn nodweddiadol iawn ‘o’i chyfnod’, gan nad oedd y menywod yn gallu ysgrifennu eu hareithiau eu hunain.

Roedd tywydd garw’r diwrnod agoriadol, ac ymbarelau’r torfeydd enfawr a ymgynullodd i wylio, yn atgof ingol bod cymylau stormydd yn dod i’r golwg dros Ewrop.  Misoedd yn ddiweddarach, dechreuodd yr Ail Ryfel Byd.

Edrychwch ar Fideo o Ddarnau o’r Wasg, o ddigwyddiad agor y Deml Heddwch ym 1938. 

Screenshot 2018-11-08 at 17.37.27 Screenshot 2018-11-08 at 17.55.18.png

Mae “We will Remember Them” gan newyddiadurwr y BBC, Huw Edwards, Tach 2018, yn cynnwys 3 munud ar y Deml Heddwch ac ar Lyfr y Cofio (o 38.30)

Man Pererindod

Er gwaethaf cychwyn y rhyfel, daeth y Deml Heddwch yn fan pererindod i bobl o bob cwr o Gymru. Mewn oes pan oedd teithio i Ffrainc, Gwlad Belg neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio, byddai grwpiau cymunedol ac ysgolion ledled Cymru yn trefnu ‘pererindodau’ i ymweld â Llyfr y Cofio. Roedd yr ymweliadau hyn yn aml yn cael eu hyrwyddo’n helaeth mewn papurau newydd lleol.

Screenshot 2018-11-10 at 19.50.03.png Y Gell yn 1938

Am 11am bob bore, fe fyddai tudalen o’r llyfr yn cael ei throi – gyda’r enwau yn cael eu cyhoeddi yn y wasg yn ystod yr wythnos flaenorol, fel y gallai perthnasau ddod i weld y seremoni wrth i’w hanwyliaid gael y sylw wedi’i roi arnynt. Byddai ymwelwyr yn cymryd rhan mewn Gwasanaeth Cofio hyfryd, dwys ond blaengar, oedd wedi’i drefnu gan y Chwiorydd Davies o Gregynog– ac yn arwyddo llyfr ymwelwyr yn addo mynd ar drywydd heddwch.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd cenhedlaeth arall o ddynion a menywod o Gymru wedi marw; a chomisiynwyd Llyfr y Cofio’r Ail Ryfel Byd, a mynediad i archifau Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mor ddiweddar â 1993, lluniwyd cynlluniau pensaernïol i addasu neuadd y Deml Heddwch i arddangos y ddau lyfr ochr yn ochr. Ond hyd yn hyn, nid ydynt erioed wedi cael eu huno, ac mae hyn yn parhau i fod yn ddyhead gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) hyd heddiw.

Wrth i oroeswyr cenhedlaeth y Rhyfel Byd Cyntaf dyfu’n hŷn – ac wrth i deithio dramor ddod yn haws – tyfodd ymwelwyr i Lyfr y Cofio yn llai dros y blynyddoedd. Mae’r llyfr, a’r Deml, wedi cael ymweliad gan y fath enwogion â Peres De Cuellar, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ym 1984; a Desmond Tutu yn 2012. Ond erbyn 2014, roedd yn ymddangos bod Llyfr y Cofio wedi’i  … anghofio i raddau helaeth?

Wales for Peace Exhibition Title Panel A1 Landscape

Cofio dros Heddwch – 2014-18

Yn 2014, datblygodd WCIA, ynghyd â 10 partner cenedlaethol, brosiect ‘ Cymru dros Heddwch ‘, wedi’i ariannu gan CDL a’i gefnogi gan Cymru’n Cofio/Wales Remembers, gyda’r nod o nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf drwy archwilio un cwestiwn mawr:

“Yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch?”

Fel gwarcheidwaid y Deml Heddwch, dechreuodd prosiect WCIA gyda gwneud Llyfr y Cofio yn hygyrch unwaith eto i’r cyhoedd. Y nod oedd creu arddangosfa deithiol – ac uno’r Llyfr am y tro cyntaf gyda’r cymunedau ar draws Cymru y deilliodd ei 35,000 o enwau ohonynt; ac i ddigideiddio’r llyfr, fel y gallai fod yn hygyrch ar-lein i genedlaethau’r dyfodol.

Screenshot 2018-11-10 at 18.55.45.png

Lansiwyd trawsgrifiad o’r Llyfr ar Ddydd y Cofio 2015,  gyda digwyddiad yn y Senedd, Bae Caerdydd, lle gwahoddwyd Aelodau’r Cynulliad i weld y llyfr a thrawsgrifio’r enwau cyntaf.  Lansiwyd galwad cenedlaethol am wirfoddolwyr, ysgolion a grwpiau cymuned i gymryd rhan mewn ‘Gweithred Ddigidol o Gofio’.

Galluogodd gweithdai lleol, o Eryri i Abertawe, bobl i fod yn rhan o ‘greu hanes ‘. Datblygodd ysgolion brosiectau ‘ hanesion cudd ‘ a oedd yn darganfod y straeon y tu ôl i’r enwau, a brofodd yn hynod o deimladwy i lawer, wrth iddynt gysylltu â phobl oedd wedi mynd i angof ers amser maith.

Screenshot 2018-11-10 at 18.55.38.png

Taith o’r Arddangosfa

Lansiwyd yr Arddangosfa Cofio dros Heddwch yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ym mis Ionawr 2016. Mae wedi teithio ymlaen i’r lleoliadau canlynol:

  • Castell Bodelwyddan, Sir Ddinbych yn cynnwys digwyddiad gyda Cofebion Rhyfel Sir y Fflint
  • Y Deml Heddwch, Caerdydd ar gyfer #Somme100
  • Castell Caernarfon, Gwynedd – ochr yn ochr â Pabis: Weeping Window, a Llwybr Heddwch Caernarfon
  • Amgueddfa Arberth, Sir Benfro
  • Oriel Môn, Ynys Môn
  • Senedd, Bae Caerdydd – ochr yn ochr â Pabis; Weeping Window a Menywod, Rhyfel a Heddwch
  • Amgueddfa Abertawe, fel rhan o’r digwyddiad ‘Nawr yr Arwr’
  • Eglwys Gadeiriol Llandaf, Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol ‘Cymru’ ar gyfer Canmlwyddiant WW100
  • Teml Heddwch, Caerdydd ar gyfer #Temple80

Ym mhob lleoliad arddangos, mae partneriaid lleol wedi gweithio gyda grwpiau cymunedol i dynnu sylw at straeon lleol amrywiol, felly mae pob arddangosfa wedi bod yn wahanol. Mae Pecyn Cwricwlwm i Ysgolion, ‘ Cofio dros Heddwch ‘ ar gael ar Hwb, ac mae Canllaw Hanesion Cudd ar gyfer Grwpiau Gwirfoddolwyr wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth y tu hwnt i brosiect Cymru dros Heddwch.

Screenshot 2018-11-10 at 15.51.16

Llyfr y Cofio Ar-lein

Ar gyfer Dydd y Cofio 2017, roedd yn bleser gan WCIA a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddadorchuddio Llyfr y Cofio digidol, a’r swyddogaeth chwilio ar-lein ar wefan www.BookofRemembrance.Wales / www.LlyfryCofio.cymru.

Mae hyn nid yn unig yn weithred symbolaidd iawn o goffadwriaeth ynddo’i hun, ond yn glod mawr i dros 350 o wirfoddolwyr a gyfrannodd tuag at drawsgrifio’r Llyfr i’w wneud yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol. Cydnabuwyd eu cyfraniad eithriadol pan gyflwynwyd Wobr Gwirfoddoli’r Archifau mawreddog i’r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer 2016.

Darganfyddiad rhyfedd o’r broses ddigideiddio fu’r cwestiwn ‘ faint o bobl fu farw ‘? Mae’r rhan fwyaf o gyfeiriadau hanes – yn cynnwys am greu Llyfr y Cofio – yn dyfynnu 35,000 fel y nifer o ddynion a menywod o Gymru a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond roedd ychydig o dan 40,000 o enwau (39,917) yn deillio o’r data trawsgrifio – sy’n awgrymu y gallai colledion Cymru fod wedi bod hyd yn oed yn fwy na’r hyn a ystyriwyd yn flaenorol.

Straeon Milwyr

Grym diamheuol Llyfr y Cofio yw y tu ôl i bob enw wedi’i addurno a’i euro, mae stori bywyd – o’r enwog, i’r gwreiddiol, i’r cymharol anhysbys.

Screenshot 2018-11-10 at 18.55.23.png

Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans), Bardd ac eicon heddwch Cymraeg, a fu farw yn Passchendaele, dim ond dyddiau cyn ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei wobr, a adwaenir am byth fel y ‘ Gadair Ddu ‘ a’i fferm enedigol, yr Ysgwrn, bellach yn fan pererindod yn Eryri ar gyfer pobl sy’n dysgu am y Rhyfel Byd Cyntaf, diwylliant Cymru ac adeiladu heddwch.  Mae ei nai, Gerald Williams, wedi cadw’r drysau ar agor a chof Hedd Wyn yn fyw, a phlannodd y pabi olaf yng Nghastell Caernarfon ar gyfer agoriad gwaith celf 14-18NOW Weeping Window ym mis Hydref 2016.

Screenshot 2018-11-10 at 18.55.10.png

Roedd Alfred Thomas o Dyddewi yn gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol pan gafodd ei long, yr S S Memnon, ei tharo gan dorpido. 100 mlynedd yn ddiweddarach, roedd ei wyres, Gwenno Watkin, yn un o’r gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol a oedd yn trawsgrifio Llyfr y Cofio pan ddaeth hi’n sydyn wyneb yn wyneb â’i enw – a mynd ymlaen i ddarganfod mwy am ei golled yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Screenshot 2018-11-10 at 18.54.57.png

Roedd Jean Roberts, Eva Davies, Margaret Evans a Jennie Williams i gyd yn nyrsys gyda Queen Mary’s Auxiliary Corps, a fu farw yn gwasanaethu yn ysbytai caeau Ffrainc a Gwlad Belg. Yn draddodiadol, mae stori menywod, rhyfel a heddwch ymhlith rhengoedd milwyr gwrywaidd wedi cael ei hanwybyddu– ond ysbrydolodd eu straeon greadigaeth yr arddangosfa Menywod, Rhyfel a Heddwch, a phrosiect ‘ Menywod yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, Archif Menywod Cymru.

Beddau Beersheba. Mae Eli Lichtenstein yn wirfoddolwr yng Ngogledd Cymru a fagwyd yn Israel. Fe’i syfrdanwyd i sylweddoli ei fod yn cydnabod llawer o enwau yn Llyfr y Cofio o dyfu i fyny yn blentyn, a darganfuodd bod llawer o’r dynion a fu farw ym Mrwydr Beersheba, yn yr hen Balesteina Brydeinig, yn Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol o ardal Bangor, Llandudno. Darllenwch Stori Blog Eli.

Screenshot 2018-11-10 at 18.54.47.png

Gwasanaethodd David Louis Clemetson gyda Iomaniaeth Penfro, ac mae’n un o’r nifer o Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Cymru, yn ogystal â’r rheiny ar draws ymerodraeth Prydain gynt, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Yn 2018, ar gyfer WW100, trefnodd y Deml Heddwch Wasanaeth Cofio BME, lle y cydnabuodd Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf, aberthau a cholledion cymunedau BME Cymru mewn rhyfeloedd Prydeinig olynol.

Screenshot 2018-11-10 at 18.54.39.png

Mae gan bawb stori bersonol; a chafodd Pennaeth Cymru dros Heddwch,  Craig Owen,  ei daro o ddarganfod stori ei hen daid ei hun, Ally Price, ac yn dilyn ymweliad â’i gofeb yn Tyne Cot, Gwlad Belg, creodd ffilm fer ar gyfer ei deulu, wrth iddo ddarganfod mwy am y ‘dyn tu ôl i’r enw ‘ o Faesyfed, Tredegar a swydd Henffordd.

Screenshot 2018-11-10 at 18.54.31.png

Gwasanaethodd David James o Ferthyr Tudful, a fu’n gweithio yn y swyddfa arlunio ym Mhwll Glo Dowlais, gyda’r Gwarchodlu Cymreig nes iddo gael ei ladd ar waith ym mis Hydref 1916. Bu farw ei ddau frawd hefyd o anafiadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a dwy chwaer o golera. Dewiswyd eu mam, Minnie James, i agor Teml Heddwch ac Iechyd Cymru yng Nghaerdydd ym 1938 er cof amdanynt.

Fideo – Minnie James yn agor y Deml Heddwch ym 1938.

Ar gyfer penwythnos Cadoediad WW100, mae’r Deml Heddwch yn cofio pawb a fu farw yn ‘y rhyfel a fyddai’n rhoi terfyn ar ryfel ‘ – a’r holl rai hynny a oroesodd, ac a roddodd bopeth i adeiladu heddwch yn y blynyddoedd a ddilynodd.  Mae eu cenhadaeth yn parhau i fod mor berthnasol heddiw ag erioed.

Gwrandewch ar fwy:

  • Audio on Soundcloud – ‘Thoughts in the Crypt’ gan E. R. Eaton – recordiad air am air o atodiad y Western Mail ar 23 Tach 1938, a ddarllenwyd gan Craig Owen.
  • ‘Peace Podcast’ ar Soundcloud – Recordiad o ddarlith Teml80 WCIA ‘The Story of the Book of Remembrance’ o 9 Tachwedd 2018, gyda Craig Owen, Cymru dros Heddwch; Dafydd Tudur, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a Jon Berry, Artist Preswyl y Deml Heddwch.

Archwiliwch Lyfr y Cofio drosoch eich hun:

Book of Remembrance Flyer Cover.png  Book of Remembrance Online