Mae Teml Heddwch ac Iechyd Cymru yn adeilad gweithredol sy’n gartref i elusennau a mudiadau rhyngwladol sy’n gweithio gyda chymunedau a digwyddiadau ledled Cymru. Rydyn ni’n annog ymwelwyr â’r Deml Heddwch i archwilio’r gofod eiconig hwn drwy ymuno ag un o ddiwrnodau ‘drysau agored’ misol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
I weld manylion Llogi Ystafell/Lleoliad, neu drefnu ymweliadau ‘galw heibio’ i sefydliadau preswyl, sgroliwch i lawr.
Teithiau o’r Deml a Diwrnodau ‘Drysau Agored’
Mae croeso i ymwelwyr â’r Deml Heddwch ddefnyddio llyfryn Taith Hunan-dywys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a gynhyrchwyd i ddathlu pen-blwydd y Deml yn 80 oed i archwilio prif nodweddion yr adeilad a’r arddangosfeydd.
Dydd Gwener olaf y mis yw ‘diwrnod drysau agored’ rheolaidd y Ganolfan, pan fyddwn yn croesawu’r cyhoedd i archwilio Teml Heddwch hardd Cymru gyda chymorth tywyswyr teithiau hyfforddedig a staff – gan gynnwys mynediad i Lyfrgell y Deml a’r Archifau ar gyfer ymchwilwyr/myfyrwyr. Gellir addasu’r amseroedd i weddu i anghenion grwpiau sy’n ymweld (dylech roi gwybod i ni ymlaen llaw), ond fel arfer dyma’r amseroedd y byddwn yn ceisio eu cynnig:
- 10.30am-11.30am Taith Dywys y Bore (sy’n cynnwys seremoni troi tudalen Llyfr y Cofio am 11am). Gallwch chwilio drwy enwau Llyfr y Cofio ar-lein yma.
- 12.30-13.30pm Taith Dywys Amser Cinio (sy’n cynnwys ymweld â’r Ardd Heddwch Genedlaethol)
- 14.00-16.00 Gweithdy Archifau (cyfle i archwilio neu weithio yn y Llyfrgell/Siambr y Cyngor, ac i weld eitemau o Archifau a Chasgliadau’r Deml. Gallwch weld a chwilio drwy’r Casgliadau Digidol yma)
- Teithiau Hunan-dywys. Mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 10.30am-3pm – mewngofnodwch ar ôl i chi gyrraedd a mwynhewch yr ardaloedd ar eich liwt eich hun. Efallai yr hoffech ddilyn llyfryn Taith Hunan-dywys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru; ac o fis Tachwedd 2018 ymlaen, bydd modd i chi lawrlwytho taith ar eich ffôn symudol (mae’r ddau hefyd ar gael o’r dderbynfa wrth i chi gyrraedd).
Gallwch wylio clipiau o’n Taith Beilot i Ddarganfod y Deml ar YouTube, o dan arweiniad Emma West, Mari Lowe a Carrie Westwater ym mis Hydref 2018.
Mae’r Ganolfan yn gofyn i ymwelwyr roi cyfraniad awgrymedig o £10 a fydd yn ein galluogi i barhau i gynnig mynediad i’r cyhoedd i’r adeilad eiconig hwn a’i straeon ysbrydoledig.
Dyddiadau Drysau Agored 2020
- 24 Ionawr
- 28 Chwefror
- 27 Mawrth
- 24 Ebrill – WEDI’I GANSLO
- Mis Mai (DS – mae dydd Gwener olaf mis Mai yn wyliau cyhoeddus, felly bydd y Deml ar gau)
- 26 Mehefin
- 31 Gorffennaf
- Mis Awst DS – mae dydd Gwener olaf mis Awst yn wyliau cyhoeddus, felly bydd y Deml ar gau)
- 25 Medi
- 30 Hydref
- 27 Tachwedd
Gwyliwch fideo newydd ar beth i ddisgwyl wrth ymweld a’r Deml – wedi’i creu gan Loeiza, wirfoddolwr Cyfnewid UNA
Trefnu Gweithdy / Ymweliad Grŵp Pwrpasol
Os hoffech drefnu taith bwrpasol o’r Deml ar gyfer ymweliad grŵp (neu unigolyn), Gweithdy Archifau / ymweliad Ymchwil, gyda chymorth wedi’i hwyluso/arbenigedd wedi’i deilwra, cysylltwch â cymrudrosheddwch@wcia.org.uk i drafod pecynnau posib y gallen ni eu cynnig i chi.
Llogi’r Lleoliad
Os ydych chi’n chwilio am leoliad cofiadwy ar gyfer eich digwyddiad eich hun, edrychwch ar becynnau Llogi Lleoliad y Deml Heddwch, o gyfarfodydd un-i-un i briodasau, cynadleddau a lleoliadau ffilmio.
Gall Teithiau o’r Deml hefyd gael eu cynnig fel dewis ychwanegol i gwsmeriaid sy’n llogi’r lleoliad (yn amodol ar argaeledd staff/gwirfoddolwyr) – trafodwch eich gofynion gyda’r Tîm Lleoliad wrth archebu er mwyn gwybod a ellir trefnu’r profiad unigryw ac ysbrydoledig yma i ategu’ch digwyddiad.
Ymweld â Mudiadau sydd yn y Deml Heddwch
Mae pencadlysoedd y mudiadau canlynol, sy’n gweithio ledled Cymru, wedi’u lleoli yn y Deml Heddwch. Cynghorir ymwelwyr yn gryf i drefnu apwyntiadau galw heibio ymlaen llaw, drwy’r manylion cyswllt canlynol:
- Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru – 029 2022 8549; centre@wcia.org.uk
- Llogi Lleoliad y Deml Heddwch – 029 2082 1052; assistant@wcia.org.uk
- Cyfnewid UNA – 029 2022 3088; assistant@unaexchange.org
- Hub Cymru Affrica – 029 2082 1057; enquiries@hubcymruafrica.org.uk
- Dolen Cymru – 029 2039 9577; swyddfa@dolencymru.org
- Maint Cymru – 029 2132 0603; info@sizeofwales.org.uk
- Cymru Masnach Deg – 029 2082 1056; aileen@fairtradewales.org.uk
- Prifysgol Caerdydd – Nid oes unrhyw aelod o staff Prifysgol Caerdydd wedi’u lleoli yn y Deml Heddwch. Dylid cyfeirio ymholiadau yn ymwneud â rheolaeth y Brifysgol o’r adeilad i’r Adran Ystadau.