Teithiau’r Deml – Llwybr Hunan-dywys

Croeso i Deml Heddwch ac Iechyd Cymru, cofeb y genedl i’r rhyfel yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y sylfaenydd David Davies yn rhagweld adeilad ‘i’r bobl’, a fyddai’n ysbrydoli mudiadau o ddynion a menywod o Gymru i ‘waredu’r byd o glefydau a rhyfel’ ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gyda’i phensaernïaeth yn llawn symbolaeth, ers ei hagor ym 1938, mae’r Deml Heddwch wedi bod wrth wraidd ymdrechion Cymru i adeiladu byd gwell. Archwiliwch y gofod eiconig hwn, a darganfyddwch straeon o ‘Dreftadaeth Heddwch’ gyfoethog Cymru drwy ddilyn y daith hunan-dywys hon, sy’n cymryd tua 25-30 munud i’r rhan fwyaf o ymwelwyr.

Os hoffech drefnu neu fwcio Taith Dywys bwrpasol o’r Deml neu Ymweliad i’r Archifau gyda thîm treftadaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru – ar gyfer grwpiau neu unigolion – anfonwch e-bost at walesforpeace@wcia.org.uk. Os fydd cyfyngiadau’r pandemig yn caniatáu, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cynnig Teithiau tywys o’r Deml yn ystod amser cinio, yn dechrau am 12.30pm fel arfer ar yr 2il ddydd Iau o bob mis, fel a ganlyn: 

• Gaeaf 2021: Dydd Gwener 26 Tachwedd 2021; Dydd Iau 16 Rhagfyr 2021 

• Gwanwyn 2022: Dydd Iau 13 Ionawr, 10 Chwefror, 10 Mawrth, 7 Ebrill, 

• Haf 2022: Dydd Iau 12 Mai, 9 Mehefin, 14 Gorffennaf, 4 Awst, 8 Medi, 

• Hydref 2022: Dydd Iau 13 Hydref, dydd Gwener 11 Tachwedd (taith Dydd y Cofio), Dydd Mercher 23 Tachwedd (Pen-blwydd y Deml yn 84 oed), Dydd Iau 8 Rhagfyr. 

Yn dechrau o Banel ‘Teithiau’r Deml’ yn y Dderbynfa, byddwn yn camu allan i weld y Cyntedd a’r Garreg Sylfaen, cyn mynd i lawr i’r Crypt sy’n cadw Llyfr Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf, gyda sylfeini’r adeilad wedi’i wreiddio yn nhrychinebau’r gorffennol. Gan godi i adeiladu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae ‘Neuadd y Cenhedloedd’ gydag adenydd ‘Heddwch’ ac ‘Iechyd’ yr adeilad ar bob ochr iddi, sy’n gartref i lawer o brif fudiadau Cymru drwy’r degawdau. I fyny’r grisiau, byddwch yn gweld Siambr ysblennydd y Cyngor gyda’i Llyfrgell bren o’r llawr i’r nenfwd; ac mae’r ‘Llinell Amser o Heddychwyr’ lliwgar a’r arddangosfeydd treftadaeth yn dangos Treftadaeth Heddwch Cymru yn ystod y 100 mlynedd diwethaf. Byddwch yn dychwelyd i’r dderbynfa drwy’r Ystafelloedd Pwyllgor, a golygfa o Ardd Heddwch Genedlaethol Cymru – sydd â’i llwybr coffa ei hun.