Mae’r sefydliad gwirfoddoli rhyngwladol Cyfnewid UNA wedi’i leoli yn y Deml Heddwch ers 1973 – fe’i sefydlwyd ochr yn ochr â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Roedd yn adeiladu ar lwyddiant y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a ddatblygwyd drwy’r UNA – sef Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig – ac mae wedi esblygu i fod yn un o’r elusennau gwirfoddoli uchaf eu parch yng Nghymru, sydd â hanes o ganolbwyntio’n bennaf ar gynhwysiant cymdeithasol, dysgu rhyngddiwylliannol, dealltwriaeth a sgiliau ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang.
Cyfnewid UNA Heddiw
Mae Cyfnewid UNA yn cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr gyflawni lleoliadau tramor am gyfnodau byr a hir ledled y byd; cymryd rhan mewn gwersylloedd gwaith cyfnewid yng Nghymru a lleoliadau profiad gwaith sy’n croesawu gwirfoddolwyr rhyngwladol o lu o wledydd bob blwyddyn; a chwilio am brosiectau gyda gwledydd neu themâu penodol. Rydyn ni’n gweithio trwy bartneriaid yng Nghynghrair Sefydliadau Gwasanaeth Gwirfoddol Ewrop a CCIVS – y corff Cydlynu Byd-eang ar gyfer Sefydliadau Gwasanaeth Gwirfoddol Rhyngwladol.
Ers 2020, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chyfnewid UNA wedi uno er mwyn ‘cronni adnoddau’ fel bod modd i ni gynyddu’r cyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol ymelwa ar wirfoddoli rhyngwladol. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gwahodd gwirfoddolwyr blaenorol, presennol ac arfaethedig i gyfrannu at yr Adolygiad ar Ddyfodol Gwirfoddoli Rhyngwladol, ac i gyfrannu hefyd tuag at ein prosiect Treftadaeth Heddwch a Rennir – straeon a phrofiadau personol sy’n dathlu effaith Cyfnewid UNA ar genedlaethau olynol o bobl ifanc sy’n ymgysylltu â’r byd ehangach.
Tarddiad: Ailadeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd
Trefnwyd y gwersyll gweithio cyntaf i wirfoddolwyr rhyngwladol yng Nghymru yn 1932 gan y Crynwyr, a fu’n gweithio gyda phobl o’r gymuned leol ym Mryn-mawr i adeiladu pwll nofio.
Mae Cyfnewid UNA yn tarddu o ddwy raglen ail-adeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd a ddatblygwyd yn ystod y pedwardegau hwyr drwy’r Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol UNA-UK yn Llundain. Chwaraeodd UNA Cymru rôl hynod weithgar yn y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol, yn arwain llawer o wersylloedd gweithio yng Nghymru a oedd yn croesawu gwirfoddolwyr o bedwar ban byd.
Pan benderfynodd y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol ddod â’i raglen gwersylloedd gweithio ledled gwledydd Prydain i ben, aeth y pensaer a’r ymgyrchydd UNA o Gaerdydd, Robert Davies – gyda chefnogaeth llawer o bobl eraill – ati i sefydlu ‘Gwasanaeth Rhyngwladol Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru’ – a dyfodd o nerth i nerth.
‘Llinell amser’ Cyfnewid UNA
-
1932 – Trefnu’r gwersyll gweithio rhyngwladol cyntaf yng Nghymru ym Mryn-mawr gan y Crynwyr, gan weithio gyda Sylfaenydd Service Civil International, Pierre Ceresole.
- 1946 – Sefydlu UNA-UK a UNA Cymru i adeiladu ar waith ymgyrchoedd Cynghrair y Cenhedloedd Unedig cyn yr Ail Ryfel Byd.
- 1964 – Gwersylloedd Gweithio Rhyngwladol yn cael eu trefnu’n flynyddol yng Nghymru gan Wasanaeth Rhyngwladol UNA-UK, drwy UNA Cymru.
- 1973 – Sefydlu Gwasanaeth Rhyngwladol UNA (Cymru) – a sefydlwyd gan Robert Davies
- 1982 – Aelod sefydlu Cynghrair Sefydliadau Gwasanaeth Gwirfoddol Ewrop; aelod cyntaf o staff Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol UNA.
- 1987 – Dechrau Rhaglenni Gwirfoddoli Cymunedol ledled Cymru
- 1988 – Gwirfoddolwyr Cyfnewid UNA yn creu Gardd Heddwch Genedlaethol Cymru (isod)
- 1991 – Cwymp Wal Berlin a diwedd y Rhyfel Oer yn arwain at newidiadau sylweddol o ran symudedd a thirlun gwirfoddoli
- 1994 – Y rhaglen Cyfnewid De-Gogledd gyntaf gydag Uganda, gan ehangu i lawer o bartneriaid prosiect yn y De Byd-eang.
- 1995 – Datblygu Gwersylloedd Gweithio gydag Awdurdodau Lleol, gan ddechrau yn Sir Benfro
- 1997 – Dechrau Gwasanaeth Gwirfoddol Ewrop (EVS);
- 1998 – Datganoli a chreu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan arwain at ragor o gefnogaeth i ddatblygu sgiliau ieuenctid a gwirfoddoli.
- 2000 – Enw ‘Cyfnewid UNA‘ yn disodli Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol UNA; ehangu yn y Deml Heddwch.
- 2004 – Y Prosiect Addysg Byd-eang yn galluogi dros 1500 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn Lleoliadau De-Gogledd.
- 2005 – Ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi yn cynnwys llawer o wirfoddolwyr rhyngwladol oedd wedi dychwelyd fel ‘llysgenhadon’
- 2014 – Toriadau llymder yn arwain at ganolbwyntio rhaglenni Cyfnewid UNA, a phartneriaeth gyda phrosiect Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
- 2020 – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chyfnewid UNA yn uno, ar ôl Brexit, i hyrwyddo Dyfodol Gwirfoddoli Rhyngwladol rhwng Cymru a’r byd.
- 2023 – Hanner Can Mlwyddiant Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chyfnewid UNA
Gardd Heddwch Genedlaethol Cymru, 1988
Cafodd yr Ardd Heddwch, a sefydlwyd gan Robert Davies, un o Ymddiriedolwyr Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig – a gwirfoddolwr gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol ers y pumdegau – ei chreu yn 1988 gan gyfres o wersylloedd gweithio cyfnewid rhyngwladol i bobl ifanc i nodi hanner canrif ers agor yr adeilad yn 1938, ac i ddathlu gwerthoedd y Cenhedloedd Unedig. Bu gwirfoddolwyr rhyngwladol o bob rhan o’r byd (gan gynnwys un o Rwsia, a oedd yn dal yn y Rhyfel Oer ar y pryd) yn cloddio ac yn tirlunio’r lle, yn plannu’r coed cyntaf, ac yn gosod mosaig o amgylch polyn baner canolog a oedd wedi’i gynllunio yn seiliedig ar lawryf glas y Cenhedloedd Unedig ac wedi’i gysegru i ddelfrydau’r Cenhedloedd Unedig.
Fel rhan o ddathliadau #Teml80 ym mis Tachwedd 2018, trefnodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ddiwrnod o hwyl i’r teulu i nodi 30 mlynedd ers agor yr Ardd Heddwch – ac ymunodd y sylfaenydd Robert Davies â disgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath i gladdu capsiwl amser, dan arweiniad Lexi Tsegay oedd yn 8 oed ar y pryd.
‘Gwersylloedd Heddwch’ Ieuenctid Rhyngwladol gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, 2015-20
Rhwng 2015 a 2018, bu Cymru dros Heddwch, drwy weithio gyda Chyfnewid UNA, yn cefnogi tri ‘Gwersyll Heddwch’, ac yn dod â gwirfoddolwyr rhyngwladol a gwirfoddolwyr ifanc o’r de ynghyd i weithio ar yr ardd heddwch. Mae’r rhain i’w gweld drwy’r dolenni isod
- 2015: gyda gwirfoddolwyr Cyfnewid UNA o Gymru a gwirfoddolwyr rhyngwladol i adfer Gardd Heddwch Cymru; Lluniau gan Wersyll Gweithio’r Ardd Heddwch, Haf 2015 a Gweithdai Mosaig.
- 2016: gyda gwersyll gweithio cyfnewid ieuenctid Tyfu Straeon Heddwch merched duon a lleiafrifoedd ethnig Glan-yr-Afon, Awst 2016; a blog ‘Tyfu Straeon Heddwch’.
- 2017 gyda gwirfoddolwyr ifanc Urdd Gobaith Cymru blog Heddwch ac Ewyllys Da a blog Gwirfoddolwyr Gwersyll Gweithio 2017
- 2020 gyda Grŵp Cadwraeth Grayhill ‘Wythnos Hanes Byw’