15-09-2017
Delfryd byd-eang yw heddwch, ond anodd yw cyflawni heddwch llwyr. Fan hyn, mae Trystan Cullinan yn arwain ymchwil heddwch trwy arolwg cryno a hygyrch.
Dywedodd: “I gyflawni heddwch llwyr, rhaid yn gyntaf deall beth mae heddwch yn ei olygu a beth mae’n ymofyn; sut gellir datblygu a chynnal heddwch? Pwrpas yr arolwg hwn yw gweld beth yw barn pobl am heddwch. Gobeithiaf y bydd yr arolwg yn eich sbarduno i feddwl ymhellach am y thema!”
Mae’r arolwg wedi’i ysbrydoli gan yr Institute of Economics and Peace (IEP) sy’n arloesi ymchwil heddwch trwy arolygon ‘Positive Peace’ yn seiliedig ar y mynegai Positive Peace. Mae eu wyth piler heddwch wedi effeithio’n fawr ar strwythur yr arolwg hwn.
Dywed Trystan: ‘Yn amlwg mae graddfa’ ein harolwg hwn yn llawer llai o’i gymharu â gwaith IEP. Yn hytrach na ffocws gormodol ar ddata meintiol, mae’r arolwg yma yn gwerthfawrogi safbwyntiau unigol ac unigryw; hynny yw, data ansoddol.
Rhowch gynnig ar yr arolwg – mae’n cymryd hyd at bum munud i’w gwblhau.