‘Cofio fel Nain’ yng Nghaernarfon

belief and action

Written on 10-11-2017 by Awel Irene

Cofio fel Nain

Ar Dachwedd y 10fed a’r 11fed bydd aelodau o Gymdeithas y Cymod yn cyfarfod yn Nghaernarfon, i gofio. Yn ogystal a chofio eu cyn-deidiau a gollwyd yn y rhyfel, byddant yn cofio dyfnder y golled i’w cyn-neiniau. Effaith hynny oedd creu dyhead dwfn ynddynt am fyd heb ryfel.

Yn 1923 arwyddodd 390,296 o fenywod Cymru ddeiseb yn galw ar wledydd i ddatrys unrhyw anghytundeb heb droi at drais a rhyfel. Roedd hyn yn cyfateb i chwedeg y cant o fenywod ar y pryd. Aeth y menywod i bob ty a fferm yng Nghymru a Mynwy yn casglu enwau. Wrth gyflwyno’r ddeiseb i Arlywydd America, Calvin Coolidge yn 1924, dywedodd y menywod
“Ein gobaith a’n gweddi parhaus yw y bydd ein neges yn gyfraniad i wireddu etifeddiaeth balch o fyd di-ryfel.”
Dyma fydd ysbryd y cofio yn y cyfarfodydd yn y Galeri.
Am 1 o’r gloch dydd Gwener y 10fed bydd sgwrs gan Aled Eirug am y gwrthwynebwyr cydwybodol a garcharwyd yng Nghaernarfon yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Bydd cyfle rhwng hanner wedi dau a hanner awr wedi tri i ymweld â chelloedd carchar Caernarfon gydag Emrys Llywelyn.
Am 3 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn bydd cyfle i ddysgu mwy am y ddeiseb heddwch gan Lowri Ifor sydd wedi gwneud gwaith ymchwil i’r hanes. Croeso i bawb ddod.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Anna Jane ar 0790 1545 114 / aevans@cymorth-cristnogol.org neu Awel Irene ar 0786 7790 971 / cymdeithasycymod@gmail.com

 

Ffotos

 

 

 

 

Amserlen