Sefydlwyd y gronfa hon ym 1980 . Dyma’r hanes y tu ôl i hyn:-
Yn ystod amser James Callaghan fel prif weinidog, penderfynwyd cynnal cystadleuaeth genedlaethol ymysg aelodau’r Blaid Lafur i adeiladu’r wybodaeth yn archifau’r Blaid Lafur. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ym 1979. Gofynnwyd i ysgrifennydd pob etholaeth i ddarganfod eu haelodau oedd wedi gwasanaethu hiraf, a gofyn iddyn nhw wneud recordiad tâp ar gyfer cystadleuaeth “Tape Archive Competition”’ y Blaid Lafur. Gofynnodd Mr Ray Hill, Ysgrifennydd Plaid Etholaeth Trefynwy i dad gymryd rhan. Siaradodd dad yn briodol ar y tâp am ei atgofion cynnar o ddyddiau cynnar y Blaid Lafur yng Nglynebwy, a’r bobl a oedd yn cael eu croesawu i’w gartref fel mawrion y Blaid Lafur cynnar, oedd yn cynnwys Noah Ablett, Enoch Morrell, Keir Hardie. Ei rieni yn sefyll i ddarparu sicrwydd rhag ‘trafferth ymysyg y torfeydd” yn y cyfarfodydd awyr agored. Y “bocs sebon” yr oedd pobl yn sefyll arno i siarad yn cael ei gadw dan eu grisiau. Fel y dywedodd, roedd angen rhywun dewr iawn i gymryd rhan yn y mudiad Llafur yn ystod y dyddiau cynnar hynny.
Er mawr syndod i dad, enillodd y wobr gyntaf o £500. Penderfynodd dad ei fod eisiau gwneud rhywbeth gwerth chweil gyda’r arian. Ar y pryd, roedd yn gwneud llawer gyda Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. (Roedd wedi gwasanaethu fel cynrychiolydd Cymru ar weithrediaeth y DU o UNA am 5 mlynedd. Ym 1981, cafodd ei benodi’n lywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig.)
Penderfynodd sefydlu Cronfa Goffa Sallie Davies er cof am ei ddiweddar wraig, i gael ei defnyddio gan C.E.W.C. (Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd) i hyrwyddo eu hamcanion. Cyfrannodd fy nhad, aelodau o’r teulu a phobl eraill at y Gronfa, fel bod y swm oedd ar gael yn cynyddu. Rhoddodd TUC Cymru ac UNA Cymru gyfraniadau sylweddol. Yn y dyddiau cynnar, defnyddiwyd y Gronfa i roi gwobrau ar gyfer Cystadleuaeth Cronfa Goffa Sallie Davies i gael ei chynnal mewn ysgolion. Un gystadleuaeth cynnar oedd cystadleuaeth poster heddwch. Ym 1989, roedd ysgolion a godwyd y mwyaf o arian ar gyfer UNICEF yn gallu enwebu pobl ifanc i fynd i Lesotho i weld sut oedd yr arian UNICEF yn cael ei wario. Aeth Beth Appleton o Landrindod a Stephen Pearce o Gastell-nedd yno yng nghwmni Mandy Owen (Swyddog CEWC yn WCIA ar y pryd). Cawsant brofiad gwych yn cael eu ffarwelio yn y maes awyr gan Uchel Gomisiynydd Lesotho ac yn cael eu croesawu ar y pen arall gan swyddogion UNICEF ac Aelodau Conswl Prydain. Roeddent yn gallu gweld sut roedd rhoddion UNICEF yn cael eu rhoi at ddefnydd da mewn gwlad oedd yn derbyn yr arian.
Yn ddiweddarach, penderfynwyd mai’r ffordd orau i ddefnyddio’r arian oedd i helpu i gefnogi Tîm Dadlau Ysgolion Cymru oedd yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Dadlau Ysgolion y Byd. Parhaodd hyn am nifer o flynyddoedd.
Mae’r teulu yn gobeithio y bydd yr arian yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy’n parhau i gefnogi addysg yng Nghymru.