Cynhadledd Hanes Heddwch 2018, Medi 21-22

MereridHopwood

I ddathlu Diwrnod Heddwch y Byd y Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig) ar ddydd Gwener 21 Medi 2018, mae’n bleser gan y Deml Heddwch yng Nghymru gynnal cynhadledd Hanes Heddwch Cymru 2018 – sef cynulliad deuddydd o academyddion blaenllaw, myfyrwyr a gweithredwyr heddwch a fydd yn archwilio dealltwriaeth ddofn o dreftadaeth heddwch Cymru.

Bydd y rhaglen, sydd yn cael ei threnfu gan y bardd a’r Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn dod â phobl o bob cornel ynghyd i ddysgu mwy am dangnefyddwyr Cymru a’r byd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiynau ar wrthwynebwyr cydwybodol, cyfraniad menywod at greu heddwch yn yr 20fed ganrif, tystiolaeth beirdd a llenorion a chelf gyhoeddus.

Bydd amrywiaeth o siaradwyr yn cyfrannu at y digwyddiad hefyd, gan gynnwys gynnwys Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;yr awdur a’r darlledwr, Jon Gower, (Saesneg yn unig) a’r arlunydd a’r gof, David Petersen (Saesneg yn unig)..

Bydd nifer o academyddion blaenllaw o brifysgolion ar draws Cymru yn cynnal sesiynau hefyd yn ystod y digwyddiad deuddydd yng Nghaerdydd.

Meddai’r Athro Mererid Hopwood: “Mae’n fraint cael croesawu’r gynhadledd hon i Gymru. Ynghyd ag ystod o ddarlithoedd diddorol, bydd mynychwyr y gynhadledd yn gallu mwynhau rhaglen artistig sy’n cynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol.”

Mae’r gynhadledd – sydd yn cael ei noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – – yn rhan o gyfres flynyddol sydd wedi cael ei rhedeg mewn dinasoedd eraill yn y gorffennol, gan gynnwys Manceinion, Leeds a Llundain, ond dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yng Nghymru.Bydd y digwyddiad yn cynnig rhagflas hefyd o gynlluniau digwyddiadau i ddathlu pen-blwydd y Deml Heddwch yn 80 oed, a fydd yn cael ei ddathlu drwy gydol mis Tachwedd 2018.

Rhaglen y Gynhadledd:

UWTSD Press Release