Darlith Lowri Glyn ar ddeiseb 1923-24

Women_War_Peace_Montage

Written on 15-11-2017

Cofio fel Nain

Ar Dachwedd y 10fed a’r 11fed roedd aelodau o Gymdeithas y Cymod gyda chefnogaeth Cymru dros Heddwch yn cyfarfod yn Nghaernarfon, i gofio. Daeth 70 o bobl ynghyd dros y ddau ddiwrnod. Yn ogystal a chofio eu cyn-deidiau a gollwyd yn y rhyfel, mi roeddent yn cofio dyfnder y golled i’w cyn-neiniau.

Roedd cyfle i ddysgu am y ddeiseb heddwch gan Lowri Ifor oedd wedi gwneud gwaith ymchwil i’r hanes.

Yn 1923 arwyddodd 390,296 o fenywod Cymru ddeiseb yn galw ar wledydd i ddatrys unrhyw anghytundeb heb droi at drais a rhyfel. Roedd hyn yn cyfateb i chwedeg y cant o fenywod ar y pryd. Aeth y menywod i bob ty a fferm yng Nghymru a Mynwy yn casglu enwau. Wrth gyflwyno’r ddeiseb i Arlywydd America, Calvin Coolidge yn 1924, dywedodd y menywod

“Ein gobaith a’n gweddi parhaus yw y bydd ein neges yn gyfraniad i wireddu etifeddiaeth balch o fyd di-ryfel.”

Dyma oedd ysbryd y cofio yn y cyfarfodydd yn y Galeri.

.