Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol 2018: Edrych ar ‘Wrthwynebiad – Ddoe a Heddiw’

glossary school picture

Written on 15-05-2018 by Craig Owen

Wrth inni yng Nghymru baratoi at goffáu’r rhai a wnaeth safiad yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf ar Ddiwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol Rhyngwladol (15 Mai), lansiwyd pecyn adnoddau newydd ar wrthwynebu rhyfel ochr yn ochr ag arddangosfa heriol mewn ysgol yng Nghwm Tawe.

 

Dilynwch y ddolen i weld y pecyn addysgol: ‘Gwrthwynebiad Ddod a Heddiw

Fel rhan o waddol canmlwyddiant y Rhyfel Mawr o 2014 tan 2018, y mae Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais yn gweithio ar y cyd gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) i ddod yn un o’r Ysgolion Heddwch cyntaf yng Nghymru. Mae’r ysgol hefyd yn croesawu’r arddangosfa ‘Cred a Gweithred’ sydd wedi’i chefnogi gan Gymru’n Cofio 1914 – 18, o 14 tan 31 Mai 2018. Bydd yr arddangosfa yn agored i’r gymuned leol rhwng 4 a 5 o’r gloch ar ddyddiau ysgol. Roedd Cwm Tawe yn un o ganolfannau gwrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y DU ganrif yn ôl – ac mae’r arddangosfa yn tynnu tystiolaeth o’r ‘Dreftadaeth Heddwch’ hon i ofyn cwestiynau am y ffordd wnaeth pobl safiad am yr hyn y credent oedd yn iawn, a sut mae hyn yn dal yn berthnasol heddiw.

 

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol , sef 15 Mai pob blwyddyn cofiwn am y dynion a’r merched sydd wedi gwrthod ymladd mewn rhyfeloedd ar sail cydwybod: oherwydd credoau crefyddol neu wleidyddol, neu ar sail egwyddor. O’r Rhyfel Mawr a’r Ail Ryfel Byd hyd at ryfeloedd heddiw megis Irac a Syria, mae gwrthwynebwyr wedi’u carcharu ac wedi dioddef gwarth gan gymdeithas gyfan oherwydd eu safiad. Cafodd bron 900 o ddynion eu dedfrydu am wrthwynebu gorfodaeth filwrol yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae cofeb yng Ngardd Heddwch Cenedlaethol Cymru y tu ôl i’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn dyst iddynt.

Wrth ddysgu bod gwrthwynebwyr yn arfer derbyn plu gwynion trwy’r post yn symbol o lwfrdra, meddai un o fyfyrwyr Maesydderwen: “Os mae pobl yn dweud wrthych fod rhaid ichi fynd i ryfel …. Pan fydd y llywodraeth a mwyafrif y gymdeithas yn eich gorfodi i fynd i ryfel, mae’n debyg bod gwrthod ymladd efallai’r peth dewraf y medrwch chi ei wneud.”

Cafodd y myfyrwyr drafodaeth fywiog am faterion sydd yn achosi gwrthdaro yn y byd cyfoes, gan gynnwys y rhyfel yn Syria, rhyfel technolegol, a’r pwysigrwydd o fod yn feirniadol o’r cyfryngau a’r propaganda ar y cyfryngau cymdeithasol. “Dylai pawb fod â’i farn ei hun – a’r hawl i wneud penderfyniadau am yr hyn sydd yn iawn ac yn anghywir.”

Y mae ‘Gwrthwynebiad ddoe a heddiw’ yn Becyn Addysgol newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 a 4, a ddatblygwyd gan brosiect ‘Cymru dros Heddwch’ a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac a leolir yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Y mae’r prosiect yn hybu meddwl yn feirniadol a chodi cwestiynau o gwmpas themâu yn ymwneud â gwrthdaro, gwrthwynebu a mynegi barn. Er bod y pecyn yn drawsgwricwlaidd, bydd o ddiddordeb pennaf i athrawon Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Gwleidyddiaeth a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Mae’n cynnwys nifer o syniadau ar gyfer prosiectau i fyfyrwyr all fod yn addas ar gyfer y Bac Cymreig yn ogystal â gwaith cwrs TGAU.
Hoffai WCIA ddiolch yn arbennig i wirfoddolwr Jeffrey Mansfield am ei holl waith yn ymchwilio ac ysgrifennu ‘Gwrthwynebiad ddoe a heddiw’.

Golwg ar Fap Heddwch y WCIA
Cofrestr Pearce o Wrthwynebwyr Cydwybodol (DS – dewiswch y fersiwn sgrin llawn)

Ymchwilio Gwrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf yn eich ardal chi

Cafodd bron 900 eu dedfrydu am wrthwynebu’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Gall ysgolion a chymunedau ledled Cymru bellach ddod o hyd i wybodaeth am wrthwynebwyr yn eu hardal nhw, gan ddefnyddio ‘Map Heddwch’ y WCIA a chwilio Cofrestr Pearce Gwrthwynebwyr Cydwybodol y Rhyfel Mawr.  Y mae Cymru yn ddyledus i Cyril Pearce o Brifysgol Leeds am ei waith manwl yn crynhoi’r gofrestr enwau hon, ac am drosglwyddo’r bas data Cymreig – a lansiwyd yn Eisteddfod y Fenni, 2016  – i’r cyhoedd.  Prosiect Cymru dros Heddwch a wnaeth hyn yn bosibl.

Y mae’r WCIA  hefyd yn ddyledus i Aled Eurig o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi rhannu ei ymchwil ddoethurol i Wrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru ar achlysur canmlwyddiant Deddf Gorfodaeth Filwrol 2016.  Mae e hefyd wedi cynhyrchu  ‘Doves and Hawks’, cyfres o 3 darllediad radio yn edrych ar hanesion Gwrthwynebwyr Cydwybodol.

Gwasanaeth Coffa Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Bydd seremoni i goffau Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol 2018 yn sgwâr Tavistock yn Llundain am ganol dydd ar 15 Mai.

Bydd seremoni i goffau Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol 2018 yn sgwâr Tavistock yn Llundain am ganol dydd ar 15 Mai.

A ydych am ddod yn Ysgol Heddwch?

Y mae Ysgol Maesydderwen yn gweithio tua’r nod o ddod yn un o’r Ysgolion Heddwch cyntaf yng Nghymru. Yn ddiweddar cymeron nhw ran mewn prosiect sylweddol am Josef Herman, ffoadur Iddewig yn yr Ail Ryfel Byd ac artist byd-enwog a ffodd o Wlad Pwyl yn 1938 ac a setlodd yn Ystradgynlais. Pwysleisiodd athrawes Melissa Davies frwdfrydedd myfyrwyr Maesydderwen am brosiectau sydd yn ffocysu ar ddinasyddiaeth foesol a chynnig lloches i ffoaduriaid, gyda phwyslais arbennig ar yr rhai sydd yn ffoi o Syria heddiw.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun Ysgolion Heddwch, cysylltwch â WCIA / Jane Harries ar 029 2022 8549 neu e-bostio Walesforpeace@wcia.org.uk.

Ymweld â ‘Cred a Gweithred’ @ Ystradgynlais

Gall ymwelwyr weld yr arddangosfa ‘Cred a Gweithred’ yn Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais tan 31 Mai; ar ôl hynny bydd ar gael yng Nghapel y Tabernacl, Pen-y-Bont ar Ogwr o ganol mis Mehefin ymlaen.

Ystradgynlais - Belief & Action Exhibition

Oriel Flickr Gallery